Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi rheolau newydd er mwyn lleihau nifer y disgyblion sy’n cael eu cofrestru’n gynnar ar gyfer arholiadau (Dydd Llun 16 Hyd).
Daeth adolygiad annibynnol gan Gymwysterau Cymru i’r casgliad a ganlyn:
- Mae’r defnydd parhaus o gofrestru amryfal a chofrestru cynnar ar lefel TGAU yn peri risg i fyfyrwyr ac i’r system, ac nid oes modd cyfiawnhau hyn yn hawdd iawn.
- Mae hyn yn annog y dull o “addysgu ar gyfer prawf” ar draul cael gwybodaeth ehangach am y pwnc.
- Gwariwyd dros £3.3m gan ysgolion ar gofrestriadau cynnar yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Mewn ymateb, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg mai dim ond ymgais gyntaf disgybl sy’n sefyll arholiad TGAU fydd yn cyfri ym mesurau perfformiad yr ysgol o haf 2019 ymlaen. Mae'r polisi cyfredol yn caniatáu i ysgolion gymryd y radd orau o sawl ymgais.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Bydd y newidiadau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, ar sail canfyddiadau Cymwysterau Cymru, yn sicrhau mai buddiannau’r disgybl sy’n dod gyntaf o hyd.
“Rwy’n pryderu bod disgyblion sydd â’r potensial i gael graddau A*, A neu B ar ddiwedd cwrs dwy flynedd, yn gorfod bodloni ar C. Yn amlach na pheidio, mae hyn oherwydd eu bod yn sefyll yr arholiad yn gynnar ac nid ydynt yn cael eu hail gofrestru ar gyfer yr arholiad eto. Rwyf am weld pob plentyn yn cyrraedd eu potensial llawn yn yr ysgol. Ni ddylid cofrestru disgyblion yn gynnar ar gyfer arholiadau oni bai bod y disgybl o dan sylw yn mynd i elwa ar hynny.
“Mae TGAUau yn arholiadau sydd wedi eu cynllunio i’w sefyll ar ôl dwy flynedd o addysgu, nid un. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael mynediad at gwricwlwm cytbwys ac eang, ac yn canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i’n plant a’n pobl ifanc.”