Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, wedi agor prosiect adeiladu Campws 6 yn swyddogol yng Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd.
Cafodd y prosiect gyllid cyfatebol o £3.3 miliwn gan y Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae'r arian wedi cyfrannu at godi adeilad newydd ac ailwampio adeiladau gwreiddiol y campws.
Mae'r adeilad newydd yn cynnwys labordai gwyddonol, ystafelloedd dosbarth, mannau astudio, ystafell ffitrwydd a neuadd chwaraeon. Mae hefyd yn cynnwys ystafelloedd ychwanegol ar gyfer hyfforddiant trin gwallt a harddwch fel rhan o ddarpariaeth y coleg o gyrsiau galwedigaethol.
Y nod yw y bydd dysgwyr newydd yn elwa ar y cyfle i ddewis o ystod ehangach o gyrsiau. Bydd y cyrsiau hynny'n cael eu cynnal mewn dosbarthiadau mwy ac felly'n fwy o ysgogiad i'r dysgwyr, a bydd hynny yn ei dro, yn arwain at well deilliannau. Rhagwelir hefyd y bydd y cynnydd yn yr amrywiaeth o ddewisiadau ôl-16 yn denu mwy o ddysgwyr i barhau â'u haddysg, gan gael effaith gadarnhaol ar y rheini o ardaloedd difreintiedig.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r prosiect hwn sy'n werth £6.6 miliwn, gyda £3.3 miliwn yn dod o'r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
"Mae Campws 6 yn enghraifft arbennig o'r hyn y mae modd ei gyflawni drwy gydweithredu, gweithio mewn partneriaeth, a sicrhau bod y dysgwr yn rhan annatod o benderfyniadau.
Mae creu Campws 6 yn golygu bod gan y dysgwyr y dewis mwyaf o bynciau yn y sir, o'r rhai academaidd i'r rhai galwedigaethol. Mae hefyd yn golygu na fydd angen i ddysgwyr deithio rhwng canolfannau i fanteisio ar y cyfleoedd dysgu y maen nhw'n dymuno eu cael.
Gall pob dysgwr hefyd elwa ar y cyfleusterau chwaraeon o safon uchel sy'n rhan o'r datblygiad newydd hwn."