Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y bwlch rhwng plant a phobl ifanc sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion wedi cau am yr ail flwyddyn.
Yn ôl yr ystadegau gwelwyd cynnydd pellach yng nghanran y dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn ennill 5 TGAU da gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg iaith gyntaf neu Saesneg. Dyma’r perfformiad gorau gan ein dysgwyr dan anfantais.
Mae’r data hefyd yn dangos fod perfformiad yr holl ddysgwyr yn parhau i wella gyda lefelau cyrhaeddiad ar eu huchaf erioed.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Kirsty Williams:
“Mae’r canlyniadau hyn yn cydnabod ymdrechion disgyblion, athrawon a rhieni yng Nghymru ac rydw i’n eu canmol am eu gwaith caled ac am gael canlyniadau mor glodwiw.
“Rwy’n falch bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r plant hyn a’n bod yn dechrau torri’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad sydd wedi effeithio ar ein system addysg.
“Tra bo hyn yn newyddion da, mae mwy i’w wneud eto. Dyna pam y cyhoeddais yn ddiweddar fy mwriad i ddyblu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn y Blynyddoedd Cynnar a fydd yn golygu y bydd mwy o adnoddau yn cael eu neilltuo ar gyfer ein disgyblion ieuangaf.
“Ein cenhadaeth o hyd yw bod pob plentyn yn haeddu dechrau da mewn bywyd fel y caiff pawb y cyfle i lwyddo.”