Heddiw dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, mai addysg oedolion yw'r cam cyntaf ac, yn aml, y cam pwysicaf i helpu pobl i gael gwaith.
Roedd y Gweinidog yn nodi dechrau Wythnos Addysg Oedolion drwy ymweld â Kids Fun yn Ystrad Mynach lle'r oedd sefydliad Working Links yn cynnal diwrnod agored. Mae Working Links yn helpu pobl sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol i elwa i'r eithaf ar eu potensial.
Roedd y ganolfan chwarae meddal ar agor i deuluoedd am ddim fel bod rhieni'n gallu cwrdd â chyflogwyr lleol tra bod ein plant yn chwarae, a chael cyngor ar yr opsiynau ar gyfer dychwelyd i'r gwaith a sut i fanteisio ar gyfleoedd dysgu.
Wythnos Addysg Oedolion yw gwyl addysg flynyddol fwyaf y Deyrnas Unedig. Caiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop a'i threfnu gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru. Ei nod yw ysbrydoli miloedd o oedolion bob blwyddyn i ganfod sut all dysgu newid eu bywydau - pobl fel Aqsa Ahmed-Hussein.
Cytunodd Aqsa i briodas drefnedig pan oedd yn 18 oed, ar adeg lle nad oedd addysg yn flaenoriaeth iddi. Erbyn cyrraedd 28 oed, roedd ganddi bedwar o blant ac yn ystyried ei hun yn wraig a mam 'yn unig'. Ond pan wnaeth plentyn ieuengaf Aqsa ddechrau'r ysgol, roedd hi'n gwybod bod angen iddi ddiweddaru eu sgiliau er mwyn cefnogi ei theulu.
Cwblhaodd sawl cwrs gan gynnwys sgiliau cyfrifiadurol, seicoleg plant, sgiliau cwnsela, a chwrs cynorthwyydd addysgu. Gwnaeth y cyrsiau hyn eu galluogi i ddatblygu'r sgiliau yr oedd arni eu hangen i gael swydd a oedd yn ei gwneud yn werth chweil talu am ofal plant. Mae Aqsa yn 41 erbyn hyn ac yn gweithio'n llawn amser fel cynorthwyydd addysgu mewn ysgol gynradd, ac mae'n ystyried hyfforddiant pellach i ddod yn athrawes.
Dywedodd y Gweinidog:
"Roedd yn bleser ymweld â Kids Fun heddiw i weld sut mae Working Links yn helpu pobl yn yr ardal i ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt ac yn eu hannog i ddysgu sgiliau newydd.
"Rydym wedi ymrwymo i wella ffyniant pobl yng Nghymru, ac mae'r Cynllun Cyflogaeth a lansiais yn gynharach eleni'n amlinellu'n glir sut rydym yn bwriadu darparu dull unigoledig o helpu pobl i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag gweithio.
"I nifer o bobl, diffyg sgiliau neu gymwysterau yw'r rhwystr. Yn 2017, dywedodd 21% o'r rheini a oedd yn economaidd anweithgar nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau, o'i gymharu â 5% yn unig o'r rheini a oedd mewn cyflogaeth. Dyma pam rwyf wedi ymrwymo i helpu pobl i wella eu sgiliau drwy addysg oedolion gan y bydd yn gwella eu gobeithion o gael cyflogaeth deg a sicr sy'n rhoi boddhad iddynt.
"Mae ymgymryd â dysgu newydd fel oedolyn nid yn unig yn ffordd dda o wella cyflogadwyedd, ond mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd ac yn hybu hunan-barch a hyder.
Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru:
"Gyda chymdeithas sy'n heneiddio, byd gwaith sy'n newid, a datblygiadau cyflym o ran y defnydd o awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial, mae'n bwysicach nag erioed rhoi cyfle i oedolion ddysgu drwy gydol eu hoes. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi cyfle i filoedd o bobl ar draws Cymru roi cynnig ar ddysgu rhywbeth newydd a datblygu eu sgiliau."
I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Dysgu Oedolion ac am ddigwyddiadau yn eich ardal chi, ewch i Gyrfa Cymru, ffoniwch 0800 028 4844 neu dilynwch @skillsgatewaycw.