Dechrau da i gynllun peilot prentisiaeth y Theatr Dechnegol
Nod y peilot oedd sefydlu ffyrdd newydd o gael hyfforddiant y tu ôl i’r llwyfan mewn theatrau ledled Cymru drwy ddarparu sgiliau ymarferol yn y gweithle.
Bu wyth o fenywod a dynion yn cymryd rhan yn Rhaglen Brentisiaeth y Theatr Dechnegol, a oedd yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau ac ennill cymwysterau yn y meysydd sy’n helpu i sicrhau bod perfformiadau yn y theatr yn cael eu llwyfannu’n llwyddiannus, sef golau, sain a gwaith llwyfan.
Cynhaliwyd y cynllun peilot gan Ganolfan Mileniwm Cymru, dan nawdd Coleg Caerdydd a'r Fro a chyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn cynnwys hefyd nifer o theatrau eraill ledled Cymru a ddarparodd brofiadau gwaith i’r prentisiaid yn ystod eu cyfnod o hyfforddi a datblygu, gyda’r prentisiaid yn dychwelyd i Gaerdydd bob ychydig o wythnosau i fynychu sesiynau dysgu dwys.
Alex Davies, 19 oed, o Aberdaugleddau yw un o’r prentisiaid a gymerodd ran yn y cynllun peilot. Yn ystod ei brentisiaeth, bu’n gweithio yn Theatr y Torch, Sir Benfro ac ers cwblhau’r rhaglen mae wedi cael cynnig swydd llawn amser gan y theatr honno.
Wrth sôn am ei brofiad, dywedodd Alex:
“Roedd gen i brofiad o weithio’n wirfoddol ym maes theatr dechnegol gan fod fy nhad-cu yn berchen ar ei gwmni theatr ei hunan. Mae wedi marw erbyn hyn, ond dysgodd e fi i wneud y gwaith technegol i gyd. Wrth i fi wella, dechreuais i wneud gwaith i Theatr y Torch, o dan gytundeb anffurfiol. Ar ôl i’r rhaglen brentisiaeth gael ei chyflwyno, gofynnodd Theatr y Torch imi a oedd diddordeb gen i mewn cymryd rhan. Rhoddodd y brentisiaeth gyfle gwych i mi wella’r sgiliau oedd gen i yn barod a gweithio ar brosiectau llawer mwy o faint gyda thimau mwy. Hefyd, o’n i'n gallu ennill arian a gwneud gwaith o’n i’n ei fwynhau ar yr un pryd.
“Dw i wedi elwa ar y brentisiaeth a byddwn i’n argymell y cynllun i bobl eraill sydd â diddordeb yn y theatr dechnegol. Mae’n rhoi’r cyfle ichi ddysgu wrth weithio, ac os rydych chi’n dangos agwedd dda tuag at y gwaith, byddwch yn llwyddo. Roedd y brentisiaeth yn arwain at swydd imi yn Theatr y Torch oherwydd imi brofi fy mod i’n aelod gwerthfawr o’r tîm technegol. Nawr, dw i’n mynd i gael mwy o gyfrifoldeb dros y sioeau sydd ar y gweill a pharhau i ddysgu mwy a gwella fy sgiliau er mwyn datblygu gyrfa go iawn yn y dyfodol.”
Ers dechrau eu prentisiaethau ym mis Gorffennaf y llynedd, mae pob prentis wedi ennill cymhwyster lefel 3 mewn sgiliau theatr dechnegol, Gwobr Efydd mewn Ymarfer Theatr, Hedfan a Gwaith Trydanol gan Gymdeithas Technegwyr Theatr Prydain ac maent wedi cael swyddi sefydlog. Mae saith ohonynt bellach yn gweithio mewn theatrau ledled Cymru ac mae un ohonynt wedi dechrau ei fusnes peirianneg sain ei hunan. .
Wrth groesawu llwyddiant y cynllun peilot, dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
"Man cychwyn ar gyfer datblygu gyrfa gyffrous a gwerthfawr yw prentisiaethau, a gall pobl o unrhyw oed fanteisio arnynt. Maen nhw’n darparu profiadau ymarferol yn y gweithle a chyfle i ennill yr holl gymwysterau a sgiliau sydd eu hangen.
“Mae diwydiannau creadigol Cymru wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diweddaf gan ennill cydnabyddiaeth fyd-eang. Ar hyn o bryd mae dros 50,000 o bobl yn gweithio mewn sector sy’n werth dros £825 miliwn i economi Cymru.
“Os rydym am barhau i gynnal y sector hwn, mae’n hanfodol bwysig inni barhau i feithrin a datblygu sgiliau a doniau, yn benodol mewn meysydd arbenigol fel y theatr dechnegol sydd wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diweddar.
“Dw i’n falch iawn o gael gweld cymaint yw llwyddiant y cynllun peilot prentisiaeth newydd ac arloesol hwn rhwng Llywodraeth Cymru â’i phartneriaid a dw i’n edrych ymlaen at weld sut mae’n datblygu. Mae’n gyfle gwych i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiannau creadigol, yn enwedig os nad yw addysg uwch yn addas iddyn nhw, ac rwy’n annog pawb i ymgeisio am le.”
Dywedodd Mathew Milsom, Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Mileniwm Cymru:
"Fel canolfan celfyddydau o fri a chynhyrchydd blaenllaw, rydyn ni’n ceisio codi dyheadau pobl ifanc ledled Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin doniau newydd, y tu ôl i’r llwyfan ac arni hi, a dw i’n credu y bydd y cynllun prentisiaeth hwn, yn ogystal â rhaglen dysgu creadigol y Ganolfan, yn helpu i ddatblygu hunan-gred a sgiliau creadigol pobl ifanc.
“Drwy gynllun prentisiaeth y theatr dechnegol rydyn ni’n canfod a datblygu sêr y dyfodol sydd y tu ôl i lenni’r theatr, a dw i’n hynod falch o weld bod ein grŵp cyntaf o hyfforddeion, o ganlyniad i’w gwaith caled iawn, wedi sicrhau swyddi yn y diwydiant.”
Dywedodd Andrew Whitcome, Deon Dysgu Seiliedig ar Waith Coleg Caerdydd a’r Fro:
“Mae hyn wedi bod yn brofiad unigryw i’r Coleg a’n consortiwm dysgu seiliedig ar waith, y Cynghrair Sgiliau Ansawdd. Mae’r rhaglen brentisiaeth hon yn wir bartneriaeth, gydag arbenigwyr y diwydiant (Canolfan Mileniwm Cymru) yn darparu profiadau cynhyrchu ymarferol ac arbenigwyr addysg y coleg yn dysgu sgiliau. I’r coleg mae hyn wedi bod yn ymdrech gydweithredol sylweddol sydd wedi rhoi’r cyfle i bobl ifanc gael gyrfa gyffrous mewn diwydiant deinamig gan roi sgiliau trosglwyddadwy iddyn nhw hefyd.”
Ceir rhagor o wybodaeth am raglen brentisiaeth y theatr dechnegol gan gynnwys sut i wneud cais am leoedd yn 2017/18, sy’n dechrau ym mis Hydref 2017, drwy’r Gwasanaeth Paru Prentisiaeth ar wefan Gyrfa Cymru.