Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru, Julie James, yn lansio’r ymgais i ddod o hyd i ddysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr.
Dewiswyd Crimewatch Alarms Ltd and CW Electrical, trydanwyr ac arbenigwyr larymau diogelwch a thân, gan y Gweinidog i fod yn enghraifft ddisglair o’r hyn y gall busnes ei gyflawni trwy fuddsoddi mewn prentisiaethau er mwyn datblygu gweithlu medrus.
Ei gobaith yw y bydd llu o gwmnïau tebyg ledled Cymru'n ymgeisio eleni am y gwobrau pwysig a drefnir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Noddir y gwobrau gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.
Mae ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho o wefan NTFW (dolen allanol) ac mae’n rhaid eu cyflwyno erbyn ganol dydd ar 23 Mehefin, 2017.
Bydd rhestrau byrion yn cael eu paratoi mewn 11 dosbarth am y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref 2017.
Busnes teuluol yw Crimewatch Alarms Ltd and CW Electrical ac mae wedi rhoi blaenoriaeth uchel i hyfforddi a datblygu ei weithwyr ers ei sefydlu gan y rheolwr gyfarwyddwr, Harry Meese, 31 o flynyddoedd yn ôl.
Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn 2016 oedd gwobr fawr gyntaf y cwmni ers iddo ennill Gwobr BBaCh 2007 gan Adeiladu Arbenigrwydd Cymru a bu’n hwb mawr i’r busnes.
“Roedd ymgeisio yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y llynedd yn un o’r pethau gorau a wnaethom erioed,”
meddai’r cyfarwyddwr Rachel Meese-Kendall.
“Mae wedi rhoi hwb mawr i’r cwmni ac wedi creu llawer o gyfleoedd i ni. Cefais gyngor gan un o’r beirniaid, a oedd yn gyn-enillydd ei hunan, i fanteisio ar bob cyfle a gaem a dyna beth ydw i wedi’i wneud.
“Mae ennill y wobr wedi golygu ein bod wedi cael llawer o sylw ac mae wedi cynyddu trosiant y cwmni. Oherwydd y gwaith ychwanegol, rydyn ni wedi cyflogi tri o bobl eraill ac rydyn ni’n cymryd tri o brentisiaid newydd o ysgol leol ym mis Medi.
“Erbyn hyn mae’r cwmni’n cyflogi 39 o staff ac mae bwriad i greu swydd newydd eto. Ar hyn o bryd mae gennym bum prentis a bydd dau hyfforddai arall yn symud ymlaen i wneud prentisiaethau cyn hir.”
Mae’r cwmni’n gweithio’n bennaf i landlordiaid preswyl mawr a chwmnïau datblygu ledled de Cymru, ond mae’n ehangu i Loegr hefyd yn awr.
Esboniodd Rachel fod y cwmni wedi cynllunio ar gyfer twf yn y busnes oherwydd cynnydd yn y diwydiant adeiladu, trwy sicrhau bod gan y gweithwyr nifer o sgiliau. Cyn-brentisiaid sydd wedi tyfu gyda’r busnes yw tua 70 y cant o’r tîm o weithwyr.
Mae’r cwmni’n cydweithio â’r darparwr hyfforddiant Coleg QS i gynnig yr hyfforddiant gorau posibl, nid yn unig i’w weithlu ei hunan, ond hefyd i brentisiaid sy’n gweithio i gontractwyr a chleientiaid eraill.
Roedd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wrth ei bodd o glywed bod buddsoddi mewn prentisiaethau’n dal i dalu ar ei ganfed i’r cwmni ac meddai:
“Mae datblygu pobl fedrus yn hanfodol i’n heconomi ac mae Crimewatch Alarms Ltd and CW Electrical yn enghraifft ddisglair o’r llwyddiant a all ddod i fusnesau trwy fuddsoddi yn y gweithlu a’i ddatblygu.”
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae mwy a mwy o gyflogwyr ledled Cymru’n gweld gwerth ein rhaglen brentisiaethau lwyddiannus a’r angen i godi sgiliau i lefel uwch er mwyn mynd i’r afael â bylchau sgiliau ac ymateb i newidiadau mewn diwydiant.
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n llwyfan delfrydol i ni ddathlu llwyddiannau’r rhaglen trwy ein prentisiaid, ein cyflogwyr a’n darparwyr dysgu disglair. Mae eu straeon bob amser yn ein rhyfeddu ac yn ein hysbrydoli.”
Mae’r gwobrau’n cydnabod dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru sydd wedi rhagori wrth gymryd rhan yn Rhaglenni Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Yn y dosbarth cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau), Ymgysylltu a Lefel 1. Mae gwobrau hefyd ar gyfer prentis sylfaen, prentis a phrentis uwch gorau’r flwyddyn.
Mae dosbarth y busnesau’n cynnwys gwobrau i gyflogwyr bach (1 i 49), canolig (50 i 249), mawr (250 to 4,999) a macro-gyflogwyr (5,000+), a bydd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cystadlu am wobrau asesydd a thiwtor y flwyddyn.