Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer ysgol pob oed newydd gwerth £37m ym Margam.
Bydd yr ysgol 3-16 newydd yn dal 1,455 o ddisgyblion ac yn dod yn lle Ysgol gyfun Dyffryn ac ysgol gynradd Groes ar safle Ysgol Uwch Dyffryn ym Margam.
Mae awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot wedi cael hyd at £19.08 miliwn i gyfrannu at gyfanswm cost y prosiect o £37.35 miliwn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:
“Bydd y datblygiad arfaethedig yn darparu cyfleuster dysgu cynaliadwy a blaenllaw newydd ar gyfer yr ardal, ac yn rhoi ffocws newydd i'r gymuned leol.
“Bydd yn gwella hygyrchedd ac yn darparu adeilad arloesol a fydd yn adfywio'r safle ac yn darparu ysgol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ym mhob ystyr.
“Byddwn yn parhau i godi safonau ysgolion a gwella ansawdd yr amgylchedd dysgu drwy adeiladu'r ysgolion iawn yn y mannau iawn.”
Mae'r cyllid wedi'i ddyrannu fel rhan o'r Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sy'n gydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Awdurdodau Lleol, gyda’r nod o greu cenhedlaeth o ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yng Nghymru.