Mae Julie James, yn falch o gyhoeddi bod prosiect i wella sgiliau a rhagolygon swyddi pobl ifanc yn cael ei ymestyn i Ddwyrain Cymru diolch i £1 miliwn yn ychwanegol gan yr UE.
Bydd y buddsoddiad yn helpu i ehangu y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol (AIF) i ddarparu rhaglenni sgiliau a lleoliadau gwaith â thâl i bobl ifanc ddi-waith rhwng 16-24 mlwydd oed. Bydd oddeutu 1,500 o bobl ifanc yn Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg yn elwa ohono yn ystod y dair blynedd nesaf. Mae’r £1 miliwn ychwanegol yn dod â chyfanswm y buddsoddiad i £4.6miliwn, gan gynwnys £2 filiwn o gyllid cyfatebol Llywodraeth Cymru.
Mae’r AIF, a gafodd ei lansio’n wreiddiol fis Mai diwethaf, yn cael ei reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ac yn cefnogi sefydliadau i ddarparu rhaglenni sgiliau a chyfleoedd ar gyfer gwaith yn lleol.
Mae Cynhwysiant Gweithredol yn anelu at helpu i wella rhagolygon gwaith pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am hir, yn ogystal â phobl sy’n wynebu rhwystrau i waith drwy anableddau, diffyg sgiliau, neu broblemau camddefnyddio sylweddau.
Mae’r buddsoddiad hwn yn yr AIF yn canolbwyntio’n benodol ar bobl ifanc ac yn anelu at ychwanegu at hyn a gwella eu sgiliau unigol a’u rhagolygon am swydd drwy gymorth wedi ei dargedu a hyd at 26 wythnos o gyfleoedd i gael gwaith â thâl.
Y bwriad yw helpu pobl ifanc rhwng 16-24 mlwydd oed nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant ac sydd o fewn un neu fwy o’r grwpiau isod:
- Rhieni unigol;
- Y rhai hynny sydd â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio (gan gynnwys problemau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau);
- Cyn-droseddwyr;
- Pobl ag anabledd;
- Y rhai sy’n nodi eu bod o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig.
Trwy gymorth wedi ei deilwra i helpu’r rhai sy’n cymeryd rhan i oresgyn amrywiol rwystrau i waith, mae Cynhwysiant Gweithredol (Ieuenctid) yn helpu’r rhai sy’n cymeryd rhan i gael gwaith cynaliadwy llawnamser drwy eu helpu i fynd ymlaen i addysg bellach ac/neu hyfforddiant ac i ennill cymwysterau a sgiliau fydd yn gwella eu rhagolygon am swydd.
Gallai rhwystrau o’r fath gynnwys cyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar y gallu i weithio, gwahaniaethu, eithrio cymdeithasol a digidol, problemau iechyd meddwl, anableddau, dibyniaeth ar y gyfundrefn les, diffyg hyder, sgiliau llythrennedd gwael neu ddiffyg profiad o fyd gwaith.
Cyhoeddodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth y cyllid newydd cyn ymweliad â’r NEC yn Birmingham ar 18 Tachwedd i fynd i Sioe Sgiliau fwyaf Prydain, ble y bydd mwy o gystadleuwyr o Gymru nag erioed yn cymeryd rhan.
Meddai Julie James:
“Mae Cymru yn elwa o oddeutu £500 miliwn o gyllid yr UE bob blwyddyn i gefnogi twf a swyddi, sy’n cynnwys buddsoddiadau i helpu i wella’r cyfleoedd ar gyfer sgiliau a chyflogaeth i filoedd o bobl fregus ledled Cymru.
"Mae sicrhau bod gan Gymru y sgiliau iawn i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer gwaith nawr ac yn y dyfodol yn flaenoriaeth bwysig i’r llywodraeth hon, ac rydym wedi ymrwymo i helpu’r rhai hynny sydd â’r angen mwyaf i gyrraedd eu potensial yn llawn.
“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i fywydau pobl ifanc ac yn helpu’r rhai hynny sydd wedi eu cau allan o’r farchnad swyddi i fagu’r sgiliau hanfodol ac i dderbyn cyfleoedd i hyfforddi a chael gwaith, gan helpu i sicrhau fod Cymru yn gymdeithas decach, mwy llewyrchus a chynhwysol.”
Ychwanegodd Phil Fiander, cyfarwyddwr gweithrediadau CGGC:
“Bydd bron i 1,500 o bobl ifanc yn elwa o ehangu’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, gan gynnwys nifer sydd o gefndiroedd difreintiedig sydd angen y math hwn o gymorth i newid eu bywydau.
“Bydd y cyllid hwn yn creu cyfleoedd o fewn y gymuned i bobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed wella eu sgiliau ac chymeryd rhan mewn lleoliadau gwaith â thâl fydd yn addas ar gyfer ystod eang o ddiddordebau, doniau a galluoedd.”