Mae Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, wedi ymweld ag ysgol sy’n arwain y ffordd o ran datblygu sgiliau digidol ei disgyblion.
Cyfrannodd Ysgol Gymunedol Sant Tomos at y gwaith o ddatblygu Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru, ac mae bellach yn chwarae rhan bwysig wrth i’r Fframwaith hwnnw gael ei roi ar waith yn llwyddiannus.
Mae cymhwysedd digidol yn sgil sylfaenol yn y byd sydd ohoni. Mae’r Fframwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol i ddysgwyr yn eu bywydau bob dydd ac ym myd gwaith.
Bydd y fframwaith yn fodd i sicrhau bod gwybodaeth a sgiliau digidol yn rhan annatod o bopeth y bydd disgyblion yn ei wneud wrth iddynt symud ymlaen drwy’r ysgol, wrth i athrawon fynd ati fwyfwy i ddefnyddio sgiliau digidol perthnasol yn eu gwersi.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
“Mae Ysgolion Arloesi fel Ysgol Sant Tomos yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Fframwaith Cymhwysedd a’r cwricwlwm newydd ehangach yn llwyddo.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu hymroddiad ac am y cyfraniad y maen nhw wedi’i wneud i’r gwaith o ddatblygu’r Fframwaith.
“Bydd y gwaith a wnaed y llynedd i ddatblygu’r Fframwaith, a hefyd y gwaith sydd wrthi’n cael ei wneud i ddatblygu deunyddiau ategol, yn helpu i sicrhau y bydd y Fframwaith yn parhau’n berthnasol ac yn parhau i ymateb i anghenion athrawon a disgyblion.”
Ychwanegodd Russell Dwyer, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Sant Tomos:
“Yn yr oes sydd ohoni, mae gallu digidol yn hanfodol er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau mewn bywyd ac ym myd gwaith yn y dyfodol. Roedd yn fraint inni fel ysgol gael cyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yng Nghymru ac mae cael bwrw ymlaen i’w roi ar waith, er mwyn i’n disgyblion fedru llwyddo yn y dyfodol, yn rhoi boddhad mawr inni.”