Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw y byddai'r arian sy'n cael ei wario ar y disgyblion difreintiedig ieuengaf yn dyblu, a bydd hwb o £20 miliwn i wella safonau mewn ysgolion.
Mae'r gyllideb refeniw ar gyfer Addysg yn 2017-18 wedi cynyddu £50.9 miliwn, sef cynnydd o 3.5% o'i gymharu â chyllideb 2016-17.
Yn ystod tymor y Cynulliad presennol, bydd £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi i godi safonau mewn ysgolion.
Mae'r cynlluniau gwariant yn cefnogi nod yr Ysgrifennydd Addysg i sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf.
Mae'r mesurau'n cynnwys:
- Buddsoddi mwy na £90 miliwn yn y Grant Amddifadedd Disgyblion, gan gynnwys dyblu'r cymorth rydym yn ei ddarparu ar gyfer disgyblion difreintiedig sy'n dair neu'n bedair oed. Mae hyn yn golygu y bydd y cyllid i helpu'r rheini sy'n gymwys yn cynyddu o £300 i £600 ar gyfer y dysgwyr ieuengaf. Gallai tua 15,000 o ddisgyblion elwa oherwydd hyn.
- £20 miliwn i godi safonau mewn ysgolion. Mae hyn yn rhan o £100 miliwn sy'n cael ei fuddsoddi yn ystod tymor y Cynulliad presennol yn y maes hwn.
- £30 miliwn i gefnogi'r blaenoriaethau o fewn addysg bellach ac uwch.
- Buddsoddi £15 miliwn er mwyn cynnal y pecyn cymorth presennol i fyfyrwyr cyn rhoi'r newidiadau a argymhellir yn adolygiad Diamond ar waith.
- Mwy na £500 miliwn fel rhan o'n rhaglen £2 biliwn i ddatblygu ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Er gwaethaf yr hinsawdd ariannol anodd, mae'r gyllideb hon yn dangos ein hymrwymiad i ddiwygio ein system addysg a chodi safonau.
“Rydym yn benderfynol o gau'r bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng y disgyblion hynny sy'n dod o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion. Dyna pam rydym yn buddsoddi mwy o arian yn y Grant Amddifadedd Disgyblion, sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
“Rydym yn buddsoddi'r arian ychwanegol er mwyn codi safonau yn ein hysgolion i gyd, yn ogystal ag adnewyddu ysgolion ac adeiladu rhai newydd ar draws y wlad. Diwygio addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Drwy weithio gyda'n gilydd, byddwn yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf.”