Cyllid o £5m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Pantycelyn
Cafodd y cyllid, y cytunwyd arno'n flaenorol mewn egwyddor, ei gadarnhau gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wrth iddi ymweld â'r neuadd breswyl a gweld cynlluniau'r prosiect.
Mae Neuadd Pantycelyn wedi bod yn llety cyfrwng Cymraeg penodedig ers 1974 ac yn symbol ar gyfer diwylliant Cymraeg yn y maes Addysg Uwch. Bydd adnewyddu'r adeilad yn sicrhau bod ei arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol yn parhau, ac yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr fyw eu bywydau bob dydd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd rhan o'r adeilad yn cael ei defnyddio fel canolfan ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, a bydd honno ar agor i'r gymuned.
Dywedodd Eluned Morgan:
“Allwn ni ddim gorbwysleisio pwysigrwydd Pantycelyn i siaradwyr Cymraeg. Mae'n adeilad eiconig i gynifer o bobl o bob rhan o Gymru a'r byd, felly rwy'n hynod falch i allu cadarnhau'r cyllid o £5 miliwn a fydd yn sicrhau bod llawer mwy o fyfyrwyr Cymraeg yn gallu ei galw'n gartref iddynt a phrofi ei hawyrgylch ieithyddol a diwylliannol unigryw.
"Rydyn ni wedi pennu targed heriol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy wedi dweud sawl gwaith fod addysg yn hollbwysig o ran sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed hwnnw – ac mae hynny'r un mor wir am addysg uwch ag ydyw am ysgolion cynradd. Y myfyrwyr a fydd yn byw yn y neuadd fydd athrawon, cyfreithwyr, gwyddonwyr a gwleidyddion y dyfodol. Felly, mae sicrhau bod ganddyn nhw'r cyfleoedd i ddysgu a byw drwy gyfrwng y Gymraeg ac i barhau â hynny yn eu bywydau proffesiynol yn rhan hanfodol o strategaeth 'Cymraeg 2050'."
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi ein cynlluniau cyffrous i ailagor Pantycelyn yn llety o’r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr Cymraeg. Mae Aberystwyth yn cynnig profiad heb ei ail i fyfyrwyr sy’n dymuno dysgu a byw drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe fydd adnewyddu’r adeilad hanesyddol hwn yn atgyfnerthu ymhellach ddyfnder ac ehangder ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg.”