Mae mam o’r Cymoedd wedi ennill gwobr o fri ar ôl i addysg ei helpu i oresgyn gorffennol cythryblus.
Ar ôl cael lle mewn lloches i fenywod, symudodd Laura Harris, mam i dri 33 oed, i fyw i Aberdâr, Rhondda Cynon Taf. Nid oedd yn nabod neb yn yr ardal felly penderfynodd gofrestru yng Ngholeg y Cymoedd a dechrau ei thaith ddysgu yn 2015.
Dechreuodd Laura gyda chwrs Mynediad i’r Dyniaethau a symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn Busnes a Gweinyddiaeth. Yn benderfynol o lwyddo, rhagorodd Laura yn ei hastudiaethau gan ennill marc anrhydedd am ei gwaith cwrs.
Mae Laura wedi derbyn gwobr Dysgwr Cyffredinol y Flwyddyn yn ogystal â’r categori Iechyd a Lles yng Ngwobrau Ysbrydoli! eleni i gydnabod ei bod wedi datblygu i fod yn fyfyriwr hyderus a llwyddiannus sy’n mynd ymlaen i brifysgol, ar ôl sicrhau lle i astudio rheoli digwyddiadau ym Mhrifysgol De Cymru ym mis Medi.
Yn fam i Tyler, 15 oed, ac efeilliaid 10 oed, meddai Laura:
"Fe ges i blentyndod trafferthus. Don i ddim yn mynd i’r ysgol ac roedd gen i berthynas anodd gyda fy mam. Doedd dim syndod mod i wedi mynd yn ddigartref ac yn crwydro strydoedd Abertawe yn ceisio dod o hyd i loches yn 14 oed.
“Ron i’n cymryd cyffuriau i ddianc o bob dim ond roedden nhw’n fy ngwneud yn seicotig ac ofnus. Ron i’n feichiog pan ron i’n 17 oed ac mi ges i le i fyw a dod oddi ar y cyffuriau a dechrau gwella fy mywyd. Fe wnes i gyfarfod fy mhartner ac roedd popeth yn iawn nes iddo ddechrau fy rheoli.
“Cefais le mewn lloches i fenywod a fy nhrosglwyddo i Aberdâr. Don i ddim yn nabod neb yno ond ron i’n ddiogel. Ron i am gael addysg i helpu fy mab gyda’i waith ysgol. Dechreuais yng Ngholeg y Cymoedd a dwi heb edrych yn ôl ers hynny.
“Dwi wrth fy modd yn dysgu a does dim yn rhoi mwy o foddhad na’r balchder dwi’n ei deimlo wrth ennill gradd anrhydedd yn fy ngwaith. Dwi wedi cael fy nerbyn i’r brifysgol y flwyddyn academaidd nesaf, rhywbeth na fydden ni wedi breuddwydio y byddai’n digwydd.”
Cynhelir Gwobrau Ysbrydoli! bob blwyddyn cyn Wythnos Addysg Oedolion i ddathlu llwyddiannau dysgwyr eithriadol yng Nghymru sydd wedi dangos brwdfrydedd, ymrwymiad ac ymdrech eithriadol i ddysgu; a hynny yn wyneb amgylchiadau anodd yn aml, yn ogystal â chyflogwyr sy’n hyrwyddo dysgu yn y gweithle.
Wedi’i threfnu gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Wythnos Addysg Oedolion eleni’n para o 19 Mehefin tan 25 Mehefin ac yn dathlu dysgu gydol oes; boed yn y gwaith, fel rhan o gwrs addysg cymunedol, yn y coleg, mewn prifysgol neu ar-lein. Nawr yn 26 oed, ei nod yw hyrwyddo’r dewis eang o gyrsiau sydd ar gael i oedolion sydd am ddysgu; o gyfrifiadura a gofal plant i fusnes ac ieithoedd.
Mae Laura wedi defnyddio ei chefndir heriol i helpu eraill. Mae’n cael pyliau o banig yn sgil trawma ei bywyd yn y gorffennol. Fel rhan o weithdy theatr cynlluniodd Laura DVD yn sôn am ei phrofiadau o berthnasoedd a thrais domestig. Cyflwynwyd y DVD i ysgolion a cholegau Rhondda Cynon Taf ac enillodd Wobr Menter Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn 2016.
Laura Wilson, Swyddog Lles Coleg y Cymoedd a enwebodd Laura am Wobr Ysbrydoli! Meddai:
“Mae Laura’n ysbrydoli eraill drwy ei gwaith gydag ieuenctid yn bendant. Mae Laura’n gweld y coleg fel ei theulu. Mae’n gampws mor fach a chyfeillgar mae wedi dod i nabod llawer o bobl ac mae hynny wedi helpu i wella ei hyder.”
Meddai Laura Harris:
“Fy neges i i unrhyw un sy’n dioddef problemau iechyd meddwl, alcohol a chyffuriau fel wnes i yw mai addysg yw’r ateb. Mae wedi trawsnewid fy mywyd ac mae hynny’n teimlo’n anhygoel.
“Mae fy mam wedi dychwelyd i ‘mywyd. Mae’n falch iawn ohona i. Mae wedi rhyfeddu cymaint dwi wedi newid a nawr dwi’n teimlo’n gyflawn.
“Dwi wrth fy modd mod i wedi ennill y wobr hon – yn llawn cyffro ac yn hynod falch. Dwi wedi profi i fi fy hun ac eraill y galla’i wneud e.”
Wrth sôn am Wobrau Ysbrydoli!, meddai’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James:
“Mae stori Laura’n dal gwir ysbryd Gwobrau Ysbrydoli! eleni, gan brofi pa mor rymus y gall dysgu ffurfiol ac anffurfiol fod beth bynnag fo’ch oed neu’ch cefndir. Dysgwyr fel hi sy’n gosod esiampl ragorol i eraill, yn goresgyn rhwystrau ac anawsterau yn eu bywydau eu hunain i ysbrydoli darpar ddysgwyr ledled Cymru. Hoffwn ei llongyfarch hi a’r holl enillwyr eraill ar eu llwyddiannau anhygoel.
“Ein gobaith yw y bydd yr Wythnos Addysg Oedolion yn annog oedolion i gael rhagor o wybodaeth am wella eu sgiliau a’u gyrfaoedd drwy gymryd rhan yn y digwyddiadau am ddim niferus a gynhelir ledled Cymru. Gall oedolion ddefnyddio’r Porth Sgiliau i gael cyngor a chyfarwyddyd ar yrfaoedd hefyd, waeth a ydynt am wella eu sgiliau a’u cyflogadwyedd, cael hyfforddiant neu fynd nôl i weithio.”
Meddai David Hagendyk, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru:
“Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dangos sut mae dysgu yn gallu newid bywydau. Gobeithio y bydd pobl yn cael eu grymuso gan straeon yr enillwyr ac yn gwneud y gorau o’r Wythnos Addysg Oedolion i gymryd rhan mewn cyfleoedd lleol a mynd amdani – waeth a ydych chi wedi mynd i rigol, eisiau newid neu am loywi’ch sgiliau, gallai’r Wythnos Addysg Oedolion fod yr union hwb sydd ei angen i’ch helpu i wella’ch sefyllfa drwy ddysgu.”
Yr enillwyr eraill yw Arthur J Gallagher, a enillodd categori’r Cyflogwr Bach, Stuart Hughes, a enillodd y categori I Waith, Nina Miklaszewicz, a enillodd y categori Cynnydd, Nutica Neascu, a enillodd y categori Dysgu fel Teulu, Jimama Ansumana, a enillodd y categori Oedolyn Ifanc, Christopher Joyce, a enillodd Cyngor Ceredigion, a enillodd y categori Busnes Mawr, Ysgol Gynradd Treorci, a enillodd y categori Newid Bywyd neu Yrfa, Prosiect Dysgu i Deuluodd, a 3Gs Only Men Allowed, a enillodd y categori Prosiect Cymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Wythnos Addysg Oedolion, ewch i www.gyrfacymru.com/porthsgiliau (dolen allanol), ffoniwch 0800 028 4844 neu dilynwch @porthsgiliaugc