Mae gwybodaeth newydd am gategorïau ysgolion a gyhoeddwyd heddiw yn dangos gwelliant mewn perfformiad.
Cafodd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion ei chyflwyno yn 2014, ac mae'n gosod ysgolion mewn un o bedwar categori cymorth lliw i ddangos lefel y cymorth sydd ei angen - gwyrdd, melyn, oren a choch.
Bellach mae mwy o ysgolion yn y categorïau gwyrdd a melyn na'r llynedd. Mae angen pedwar diwrnod o gymorth ar ysgolion gwyrdd ac mae ysgolion melyn yn cael hyd at 10 diwrnod.
Eleni, mae yna newid bach yn y ffactorau sy'n penderfynu ar gategori ysgol. Yn hytrach nag edrych ar feysydd megis perfformiad yn unig, gan gynnwys arholiadau TGAU, mae'r asesiad yn llawer ehangach erbyn hyn gan roi sylw i feysydd fel asesiadau athrawon pynciau eraill, llesiant ac ansawdd yr addysgu a'r dysgu.
Diben cynnwys amrywiaeth ehangach, fwy soffistigedig o ffactorau yw deall y math o gymorth sydd ei angen ar ysgol a rhoi darlun gwell i rieni o sut mae ysgol yn perfformio.
O fwy na 1,500 o ysgolion ledled Cymru, dim ond pedair a apeliodd yn erbyn eu categori.
I grynhoi:
- Mae 85.3 y cant o ysgolion cynradd a 68.3 y cant o ysgolion uwchradd yn y categorïau gwyrdd a melyn bellach. Mae'r cynnydd hwn ers y llynedd yn parhau'r duedd a welwyd ers 2015.
- Gwelwyd cynnydd bach iawn yn y gyfran o ysgolion coch - y rheini y nodir bod angen y cymorth mwyaf arnynt. Gwelwyd cynnydd o 0.4 pwynt canran yn y sector cynradd a 2.9 pwynt canran yn y sector uwchradd.
- Mae 45 y cant o ysgolion arbennig wedi'u categoreiddio'n ysgolion gwyrdd, sef y categori o ysgolion y mae angen y gefnogaeth leiaf arnynt. Nid oes un ysgol arbennig yn y categori coch, sef y rheini y mae angen y gefnogaeth fwyaf arnynt.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:
"Dwi'n hapus i weld bod mwy o ysgolion yn y categorïau gwyrdd a melyn erbyn hyn, sy'n parhau'r duedd rydyn ni wedi bod yn ei gweld dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae rôl allweddol gan yr ysgolion hyn wrth helpu ysgolion eraill i wella drwy rannu eu harbenigedd, eu sgiliau a'u harferion da.
"Ym mis Medi, fe gyhoeddais i y bydden ni, er mwyn codi safonau ysgolion ymhellach, yn gwneud newidiadau i'r system categoreiddio ysgolion, yn dilyn cyngor gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
"Yn ogystal ag ystyried amrywiaeth lawer ehangach o ffactorau am allu ysgol i wella, mae'r categorïau nawr yn rhoi mwy o bwyslais ar drafodaethau am sut y gallai'r ysgol wella - gan arwain at raglen o gymorth, her ac ymyriadau sydd wedi'u teilwra'n benodol i'r ysgol honno.
"Dwi'n hyderus bod y newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud i'r broses gategoreiddio o fudd i'r disgyblion ac y byddan nhw'n help i sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn."