Astudiaethau dichonoldeb diweddar yn rhoi cyfle i gynnig atebion Cymreig i faterion Cymru
Cafodd y ddwy astudiaeth eu cyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, a dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ymgynghorwyr wedi bod yn gweithio ar ddwy astudiaeth benodol. Cafodd Amgueddfa Chwaraeon Cymru ei chyflwyno gan Just Solutions tra bod Event Communications wedi gweithio ar astudiaeth ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.
Bu'r ddau ymgynghorwr yn trafod gydag amrywiol randdeiliaid, mae'r argymhellion a gyflwynwyd o fewn yr adroddiadau wedi'u tynnu o'r trafodaethau hynny.
Mae astudiaeth yr Amgueddfa Chwaraeon yn argymell bod buddsoddiad yn yr amgueddfa bresennol yn Wrecsam, er mwyn galluogi sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol i Gymru. Mae'n mynd ymlaen i argymell sefydlu Panel Treftadaeth Chwaraeon Arbenigol i Gymru i gynnig gweledigaeth Genedlaethol ar gyfer ein treftadaeth chwaraeon a fframwaith cysylltiedig i'w gweithredu. Mae'r trydydd argymhelliad yn cydnabod bod llawer o chwaraeon eraill yng Nghymru yn haeddu sylw, ond mae mwy o ffyrdd o wneud hyn na chreu hyd yn oed mwy o amgueddfeydd.
Mae tri cham i astudiaeth yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol, ac mae'n fodel y gellir ei ddatblygu mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddibynnu ar adnoddau.
Cam 1 yw'r Canfas Cenedlaethol, comisiwn ar y cyd o hyd at gant o ddarnau celf newydd ledled Cymru, a fyddai'n dod yn rhan o'r arddangosfa, gydag artistiaid yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol.
Mae Cam 2 yn golygu buddsoddi yn y seilwaith sydd eisoes wedi'i sefydlu ledled Cymru, gan gynnig dull o ddosbarthu gwaith allai olygu bod cynulleidfaoedd ledled Cymru yn gallu gweld casgliadau cenedlaethol a gwaith newydd.
Cam 3 yw datblygu canolfan celf gyfoes genedlaethol, lle parhaol i fod yn blatfform ar gyfer celf gyfoes.
Dywedodd y Gweinidog:
Gwelwch: Astudiaeth ddichonoldeb amgueddfa chwaraeron i GymruGwelwch: Astudiaeth ddichonoldeb oriel celf gyfoes genedlaethol"Mae Cymru yn wlad sy'n gyforiog o gelf a diwylliant; mae ein hanes a'n treftadaeth yn elfennau allweddol o'n cymeriad, ac mae sut y caiff y rhain eu mynegi trwy gelf a chwaraeon bob amser yn werth eu trafod a'u harchwilio ymhellach.
Mae hwn yn gyfle gwych inni ystyried ein llwyddiannau yn y ddau faes hwn, ac ystyried sut i fabwysiadu ateb o Gymru i ddathlu ein llwyddiant yn y byd chwaraeon a rhoi platfform i'n celf fodern. Mae'r astudiaethau hyn yn ddechrau taith o ddod o hyd i fodel cyffrous o Gymru fydd yn dathlu y gorau sydd gennym i'w gynnig a rhoi'r cyfle i gymaint o bobl â phosib weld y trysorau hyn.
Mae'n rhaid inni sicrhau y gall bawb weld, mwynhau a chymryd rhan yn ein celfyddyd a'n diwylliant cyfoethog a bywiog.
Mae'n glir nad Llywodraeth Cymru ei hun sydd i weithredu ar hyn ac y bydd yn rhaid cynnal rhagor o sgyrsiau. Yr adroddiad hwn yw dechrau'r sgyrsiau hyn ac yn dilyn adborth ar yr argymhellion, bydd penderfyniad ar y ffordd ymlaen yn cael ei wneud ar ddechrau 2019."