Mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cael y cyfle yn ddiweddar i ymweld â Rock UK yn Nhrelewis, Merthyr Tudful - a agorodd yn ystod yr haf yn dilyn trawsnewidiad gwerth £4 miliwn.
Mae'r prosiect wedi derbyn Cyllid Ewropeaidd gwerth £2.3miliwn drwy brosiect Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Croeso Cymru.
Rock UK yw'r prosiect cyntaf i gael ei gwblhau o dan y rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth - cwblhawyd y cyfleusterau newydd ac agorodd yr atyniad ym mis Mehefin 2018. Mae'r prosiect Cyrchfannau Denu Twristiaeth - sy'n cynnwys 11 o gyrchfannau, yn gwireddu buddsoddiad o £62 miliwn yn y sector twristiaeth dros y dair blynedd nesaf, gan gynnwys £27.7 miliwn o gyllid Ewropeaidd.
Mae prosiect Rock UK wedi creu cynnig unigryw gan gyfuno nifer o weithgareddau hamdden gyda llety deniadol, fforddiadwy, sydd yn ei dro yn dod â gwaith y mae angen mawr amdano, a chyfleusterau o safon uchel i'r gymuned leol. Mae'r tîm hefyd yn gweithio gyda'r gymuned leol i nodi cyfleoedd i weithio gyda grwpiau bychain i sicrhau y gall pobl leol gael y swyddi sy'n cael eu creu gan y buddsoddiad hwn.
Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud yn y ganolfan yn cynnwys - llety newydd en-suite gyda 104 gwely ar gyfer grwpiau; ystafell fwyta ar gyfer 120; ystafelloedd cyfarfod; caffi newydd gyda lle chwarae i blant yn yr awyr agored; ystafell ffitrwydd a champfa.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:
“Bydd y cyllid yn trawsnewid y Ganolfan yn gyfleuster antur preswyl o'r radd flaenaf gan greu canolfan twristiaeth antur newydd yn ne-ddwyrain Cymru. Dwi'n falch iawn ein bod wedi gallu helpu Rock Uk gyda'r datblygiad hwn.
"Ein nod drwy'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw hoelio ein hymdrech a'n harian ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad hon sy'n gystadleuol ar lefel fyd-eang. Mae hwn yn hwb ariannol enfawr i'r sector, fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r cynnyrch a'r profiadau sydd gan Gymru i'w cynnig.
"Un o nodau'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer 'Cymoedd De Cymru yw sbarduno gweithgarwch economaidd a chreu swyddi yng nghymunedau'r cymoedd. Gall denu mewnfuddsoddiad gwych fel hwn ein helpu i gyrraedd ein nod."
Ymunodd aelod newydd o staff, Becky Fear, o Quakers Yard, Treharris â Chanolfan Rock UK ym mis Chwefror eleni. "Mae ethos y cwmni yn un o gynnwys pawb; mae'n rhoi'r cyfle i bobl brofi rhywbeth na fyddent wedi cael y cyfle i'w wneud. Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o rhywbeth o'r dechrau a gweld y lle yn llawn o bobl leol a grwpiau'n ymweld. Mae'r tîm wedi cyflawni cymaint yn ein misoedd cyntaf ac rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn lle sydd ag awyrgylch mor bositif sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr imi." Wedi 8 mis ar y dderbynfa, mae Becky bellach wedi symud i swydd newydd fel Gweinyddwr ac yn delio â nifer o'r archebion preswyl sy'n dod i'r ganolfan.