Bydd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, mwyn cyhoeddi bod gwerth £4 miliwn o Gyllid Ewropeaidd wedi'i gymeradwyo ar gyfer Canolfan Arfordirol Rhyngwladol newydd Cymru.
- Prosiect olaf o blith 11 gyrchfannau gwerth eu gweld ar draws Cymru
- Buddsoddiad o £62 miliwn yn y diwydiant twristiaeth hyd 2020.
Dyma’r prosiect olaf i gael ei gymeradwyo fel rhan o raglen o welliannu cyrchfannau twristiaeth ar draws Cymru.
Mae cyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi drwy raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei harwain gan Croeso Cymru, a'r nod yw creu 11 o gyrchfannau, a fydd wir yn werth eu gweld.
Mae'r ganolfan newydd yn ychwanegol at y buddsoddiad a wnaed yn Harbwr Saundersfoot gyda chymorth cyllid gan yr UE.
Mae'r prosiect hwn yn brosiect trawsnewidiol ar gyfer Sir Benfro a De Cymru a fydd yn cynnig rhaglen o'r radd flaenaf o weithgareddau a digwyddiadau a hefyd atyniadau ar gyfer pob tywydd. Bydd hyn yn sicr yn creu enw i Saundersfoot fel cyrchfan ddeniadol iawn i dwristiaid.
Bydd Canolfan Arfordirol Rhyngwladol Cymru'n cynnwys pedwar datblygiad cysylltiedig. Y Ganolfan Ragoriaeth Arfordirol a Chanolfan Stormydd Arfordirol; Dec Digwyddiadau Cenedlaethol; Canolfan i’r Celfyddydau a’r Schooner – llong hamdden dal hanesyddol. Mae rhai o'r datblygiadau hyn yn ddibynnol ar ganiatâd cynllunio.
Canolfan Arfordirol Rhyngwladol Cymru yw'r olaf o'r 11 cyrchfan i dderbyn cadarnhad o ran cyllid. Bydd £62 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y sector twristiaeth dros y tair blynedd nesaf yn sgil y prosiect Cyrchfannau Denu Twristiaid. Mae hyn yn cynnwys y £27.7 miliwn o gyllid Ewropeaidd.
Mae'r datblygiadau'n mynd rhagddynt ym mhob un o'r 11 o gyrchfannau, gyda'r nod o gwblhau pob prosiect erbyn mis Chwefror 2021. Mae'r 10 cyrchfan arall sy'n elwa o'r cyllid hwn yn cynnwys Caernarfon; Caergybi; Pentywyn; Porthcawl; Camlas Mynwy ac Aberhonddu; Llys y Fran; Rheilffordd Dyffryn Rheidol; Bae Colwyn; Venue Cymru, Llandudno; a'r Ganolfan Summit, Merthyr Tudful.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:
“Nod ein rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw hoelio sylw, ymdrechion a chyllid ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth, er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad fyd-eang, sy’n un mor gystadleuol. Dyma hwb ariannol sylweddol i'r sector a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran y cynhyrchion a'r profiadau y gall Cymru eu cynnig.
“Y nod yw i'r cyrchfannau hyn roi rheswm cryf i bobl ymweld â Chymru neu aros yn y wlad ar eu gwyliau. Drwy ddenu ymwelwyr i'r safleoedd allweddol hyn bydd yr ardaloedd ehangach hefyd yn elwa ar fuddsoddiad pellach mewn busnesau a bydd yn sicrhau canlyniadau allweddol o ran swyddi ac adfywio.
“Mae twristiaeth yn un o'n sectorau allweddol ac mae'n creu £8.7 biliwn ar gyfer economi Cymru ac yn cyflogi 15% o'r gweithlu. Ni allwn laesu dwylo, a'n nod yw aros yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang sy'n newid yn gyflym. Bydd prosiectau fel y rhain yn sicrhau y gallwn barhau i gystadlu'n fyd-eang."
Bydd y prosiect yn hwb sylweddol i dwristiaid yn Sir Benfro a'r nod yw creu cyrchfan o'r radd flaenaf yn Saundersfoot a fydd yn cynnig atyniadau ar gyfer pob tywydd a hefyd rhaglen a fydd yn cynnig digwyddiadau a gweithgareddau o safon uchel gydol y flwyddyn.
Dywedodd Bradley Davies, Rheolwr Masnachol Harbwr Saundersfoot:
"Mae nifer yr ymwelwyr â'r ardal wedi cynyddu'n sylweddol ers i'r datblygiadau cynharach gael eu cwblhau. Rydym yn edrych ymlaen at allu cynnig rhywbeth holl newydd a gwahanol i ymwelwyr ac i bobl leol.”