Heddiw, bu’r Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yn ymweld â Llys-y-frân yn Sir Benfro.
Bydd y prosiect hwn yn creu parc hamdden a chanolfan weithgareddau eiconig a fydd, yn ôl yr amcangyfrifon, yn denu rhyw 40,000 o dwristiaid, selogion gweithgareddau awyr agored a thrigolion lleol. Bydd y cyllid yn golygu y bydd modd mynd ati i ddatblygu cynnyrch a fydd ar gael gydol y flwyddyn ar gyfer hamdden ac addysg, a bydd yn cael effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol yn ogystal â gwella iechyd a llesiant y trigolion lleol ac ymwelwyr.
Mae gwerth £1.7 miliwn o gyllid oddi wrth yr UE yn cael ei fuddsoddi drwy raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei harwain gan Croeso Cymru, ac sydd am greu 13 o gyrchfannau, a fydd wir yn werth eu gweld, ym mhob cwr o Gymru.
Bydd y gwaith ailddatblygu yn Llys-y-frân yn cynnwys adnewyddu ac ehangu’r ganolfan ymwelwyr, adnewyddu’r caffi’n llwyr a chreu ardal chwarae ar y thema dŵr. Bwriedir adeiladu Canolfan Gweithgareddau Agored newydd a Chaban ar lan y dŵr ar gyfer cerddwyr, beicwyr a phobl sy’n mwynhau chwaraeon dŵr. Bydd y ganolfan yn cynnwys ystafell sychu siwtiau gwlyb, gweithdy atgyweirio beiciau, ystafelloedd cyfarfod, swyddfa ar gyfer y staff, lle i bobl fwyta, lle i storio beiciau, lle i olchi beiciau a hurio beiciau.
Er mwyn ychwanegu at yr hyn y gall Llys-y-frân ei gynnig i feicwyr, bydd Parc Sgiliau Pwmpio a llwybr beicio yn cael eu hadeiladu er mwyn cynnig mynedfa naturiol i’r llwybr beicio 10 km o amgylch y gronfa ddŵr. Bwriedir datblygu llwybr gwyllt un trac â rhedfeydd coch a glas a fydd yn dechrau o’r rhedfa werdd bresennol. Y nod yw cynnig cymaint â phosibl i feicwyr o bob gallu.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae gan Lys-y-frân gymaint o botensial a dwi’n hynod falch ein bod yn gallu helpu Dŵr Cymru drwy roi cyllid i’r cwmni fwrw ymlaen â’r weledigaeth hon ar gyfer canolfan gweithgareddau dŵr ac awyr agored eiconig ar gyfer yr ardal. Yn ogystal â denu rhagor o ymwelwyr i Sir Benfro, bydd y datblygiad o fudd i’r gymuned leol hefyd.
Nod ein rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw hoelio sylw, ymdrechion a chyllid ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth, er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad fyd-eang, sy’n un mor gystadleuol. Bydd y datblygiad hwn yn rhoi rhesymau cryf iawn i bobl ymweld â’r ardal, a dwi’n edrych ’mlaen at weld y cynlluniau dwi wedi’u gweld yn dwyn ffrwyth.”
Dywedodd Peter Perry, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr Cymru:
“Mae’n bleser mawr cael croesawu’r Gweinidog i Lys-y-frân inni gael rhoi gwybod iddo am ein cynlluniau cyffrous i greu cyrchfan o’r radd flaenaf i dwristiaid.
Mae’r cynlluniau sydd gennym yn gyfle i Gronfa Ddŵr Llys-y-frân ddod yn atyniad cyffrous a bywiog i ymwelwyr a fydd yn ategu’r atyniadau eraill yn Sir Benfro ac a fydd yn dod â budd i’r economi dwristiaeth wledig yn lleol.”
Mae’r caniatâd cynllunio ar gyfer Rhan 1 mewn lle, gyda gwaith adeiladu i ddechrau yn Mis Rhagfyr.