Mae Amgueddfa Cymru Caerdydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe wedi llwyddo yn eu cais i gael un o'r 15 darlun gan yr arlunydd haniaethol o Brydain, Albert Irvin
Mae Oriel Glynn Vivian wedi cael dau ddarlun pastel yn gyfnewid am dreth o stâd ei weddw, Eleonore Marie Herman.
Roedd Albert Irvin yn artist haniaethol toreithiog. Ar ôl cyfnod yn y RAF yn yr Ail Ryfel Byd fel llywiwr, ailgydiodd yn ei angerdd mewn celfyddyd a dechrau ar yrfa a barodd dros hanner canrif. Daeth yn adnabyddus am ei ddefnydd o liwiau llachar a brwsheidiau egnïol yn ei ddarnau byrlymus.
Mae Merlin 1987 yn ychwanegiad mawr ei groeso at gasgliad trawiadol yr Amgueddfa o gelfyddyd yr haniaethwyr. Mae gan yr Amgueddfa un o gasgliadau pwysicaf y DU o gelf modern a chyfoes ond tan nawr, nid oedd gwaith o eiddo Albert Irvin yn y casgliad. Bydd y darlun llachar a beiddgar yn cael ei ddangos mewn arddangosfeydd newidiol o gelfyddyd Brydeinig yr ugeinfed ganrif yn orielau modern yr Amgueddfa, yn ogystal ag mewn arddangosfeydd dros dro o gasgliadau'r Amgueddfa yn ei hadain celf gyfoes newydd a agorodd yn 2011.
Dywedodd Andrew Renton, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru:
“Rydyn ni’n hynod falch bod gennym bellach enghraifft o waith Albert Irvin yn ein casgliadau a bydd Merlin yn ymuno â’n casgliad trawiadol o ddarluniau haniaethol o’r cyfnod ar ôl y rhyfel. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Cynllun Derbyn yn Lle Treth, sef un o’r ffyrdd pwysicaf o ddatblygu casgliad cenedlaethol Cymru a sicrhau bod y celfyddydau gorau ar gael i’n cynulleidfaoedd."
Bu Oriel Glynn Vivian, Abertawe hefyd yn llwyddiannus â chais am ddarlun arall gan Albert Irvin o'r un cynnig - Aberdare 1988. Bydd y darn hynod liwgar yn cael ei roi ochr yn ochr â darluniau a cherfluniau modern gan Hepworth, Nicholson a Nash. Mae cael ychwanegu 'Aberdare 1988' at y casgliad yn cyfoethogi deinameg yr hyn sydd gan Glynn Vivian eisoes i'w gynnig i'r cyhoedd. Caiff ei ddangos fel rhan o raglen dreigl o arddangosfeydd.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian wedi llwyddo hefyd i gael darnau eraill o gelfyddyd trwy'r Cynllun Derbyn yn Lle Treth. Mae dau ddarlun o olygfeydd prin o fywyd pentref Ystradgynlais yn y 1940au gan Josef Harman wedi cael cartref parhaol yno.
Ganed Josef Herman yn Warsaw ym 1911. Fel Iddew Pwylaidd, ffodd oddi wrth wrthsemitiaeth y Natzïaid yn Ewrop i Brydain ym 1940 gan ymgartrefu yn Glasgow. Ym 1944, aeth i Ystradgynlais ar ei wyliau - a gwneud ei gartref yno tan 1955. Dywedodd, 'Arhosais yma (yn Ystradgynlais) am fod yma bopeth oedd ei angen arna i. Cyrhaeddais i fel dieithryn am bythefnos; trodd y bythefnos yn 11 mlynedd.' Daeth yn rhan fawr o'r gymuned a chael ei alw'n hoffus yn 'Joe Bach'.
Mae Herman yn cael ei gofio'n bennaf am ei ddarluniau dramatig o'r diwydiant a'r cymunedau glofaol yn y De yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Mae'r ddau ddarlun yn ategu casgliad Glynn Vivian o'i waith. Mae casgliad yr Oriel yn cynnwys gwaith gan lawer o artistiaid pwysig yng Nghymru a oedd yn gyfoeswyr â Herman, ac sy'n rhoi cipolwg unigryw inni o hanes celfyddyd Cymru yn yr 20fed ganrif.
Cyn cynnig y darluniau yn barhaol, roedd y darluniau yn cael eu dangos yn yr Oriel ar fenthyg. Maen nhw wedi bod ar gael i bobl eu gweld yn y brif oriel ers mis Mai 2017. Nid yw'r darluniau'n cael eu dangos ar hyn o bryd ond gall y cyhoedd ofyn am gael eu gweld yn y storfeydd. Fel rhan o'r rhaglen o arddangosfeydd sydd ganddi yn yr arfaeth, caiff darluniau Josef Herman eu hailosod yn yr oriel cyn hir.
Dywedodd Jenni Spencer-Davies, curadur Oriel Glynn Vivian:
“Pleser digymysg i ni yw cael ychwanegu’r gweithiau pwysig hyn at gasgliad yr Oriel. Byddai Josef Herman a’i wraig Nini yn aml yn ymweld â’r oriel ac mae’r ddau ddarlun hardd yn dyst o’i gariad at ddarlunio pobl wrth eu gwaith, yn enwedig glowyr a’r rheini sy’n agos i’r tir. Mae’n arwyddocaol felly bod ein cymunedau yn Abertawe nawr yn cael mwynhau’r gweithiau hyn.
“Cefais gyfarfod ag Albert Irvin gyntaf ym 1990, pan gyflwynodd arddangosfa fawr o’i waith o dan ofal y Serpentine Gallery yn Llundain. Rwy’n cofio i Bert sôn am ei ymweliad ag Aberdâr, felly mae’n arbennig iawn inni ein bod yn cael y gwaith haniaethol mawr rhyfeddol hwn, o’r enw Aberdare (1988),a gafodd ei ysbrydoli gan ei ymweliad â Chymru, fel rhodd. Roedd yr arlunydd ar ei anterth bryd hynny ac ar ôl yr arddangosfa, ymwelai â Chymru’n aml, yn darlithio ag angerdd syfrdanol am ei gariad at liw a’r prosesau yn ei beintiadau.”
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Mae'n bleser derbyn y darluniau pwysig hyn ar gyfer y genedl ac rwy'n hynod falch y gwnân nhw gyfoethogi'r casgliadau rhagorol sydd gennym eisoes yn Amgueddfa Cymru Caerdydd ac yng Nglynn Vivian. Mae'r Cynllun Derbyn yn Lle Treth wedi dod â manteision mawr i bobl Cymru. Mae Amgueddfa Cymru, awdurdodau lleol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru wedi derbyn amrywiaeth o gasgliadau, gwrthrychau ac archifau yn y blynyddoedd diwethaf. Caiff yr eitemau hyn eu cadw a'u mwynhau am byth gan bawb'."
Dywedodd Edward Harley, Cadeirydd y Panel Derbyn yn Lle Treth:
"Cafodd Josef Herman effaith anferth ar gelfyddyd y De yn yr 11 mlynedd a dreuliodd yn Ystradgynlais. Mae'r ddau bastel hyn yn ychwanegiad arwyddocaol a phriodol at gasgliad Glynn Vivian a bydd yn helpu i adrodd stori'r ffoaduriaid o Ewrop a ddaeth i fyw i Brydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'n wych gweld hefyd yr enghraifft gyntaf o waith Albert Irvin yn ymuno â chasgliad cenedlaethol Cymru lle daw'n rhan o gasgliad cyfoethog o gelfyddyd Brydeinig yr 20fed ganrif. Mae'n bleser aruthrol gweld y Cynllun Derbyn yn Lle Treth yn cael ei ddefnyddio i gadw gweithiau mor bwysig i'r genedl."