Bydd amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru yn elwa ar dros £1.35 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a gwella eu cyfleusterau a'u gwasanaethau.
Bydd y Rhaglen Grantiau Cyfalaf yn helpu amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd i drawsnewid gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr ac i sicrhau eu cynaliadwyedd yn y dyfodol.
Bydd y Gronfa yn helpu i foderneiddio tair llyfrgell yn Ringland, y Pîl a Thonypandy. Bydd yn creu cyfleusterau cymunedol newydd ac yn helpu i sefydlu canolfannau ehangach lle y gall pobl fanteisio ar wasanaethau llyfrgell ynghyd ag amrywiaeth o amwynderau eraill. Bydd hefyd yn cyfrannu at y gwaith o integreiddio gwasanaethau llyfrgell a threftadaeth yn Sir Gaerfyrddin a Chonwy. Bydd ystorfa newydd ar gyfer archifau yn cael eu hychwanegu at adeilad presennol y llyfrgell yng Nghaerfyrddin a bydd cyfleuster diwylliannol newydd yn cael ei sefydlu yn rhan o ddatblygiad Canolfan Ddiwylliant Conwy. Bydd y cyfleuster hwn yn rhoi mynediad i gasgliadau'r llyfrgell a’r archif, yn ogystal â chasgliadau threftadaeth.
Bydd cyllid yn cael ei roi i bedair amgueddfa er mwyn sicrhau mwy o fynediad i'w casgliadau, ynghyd â chymorth i ailwampio The Judge's Lodging yn Llanandras ac i wella cyfleusterau a chasgliadau diogelu Amgueddfeydd Llandudno a Phont-y-pŵl. Bydd cyllid hefyd yn cael ei roi i Amgueddfa Stori Caerdydd i greu gwasanaeth 'guerilla' arloesol newydd a fydd yn teithio o amgylch cymunedau lleol.
Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:
“Mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi dros £1.35 miliwn ar gyfer ein hamgueddfeydd, ein harchifau a'n llyfrgelloedd. Rwyf wedi gweld â llygaid fy hun y gwelliannau y mae'r gronfa hon eisoes wedi'u gwneud o ran creu mannau modern a chroesawgar i bawb.
"Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r gwasanaethau pwysig hyn. Bydd y gronfa hon yn sicrhau bod mwy o bobl yn ein cymunedau yn cael mynediad i'r gwasanaethau. Bydd hynny yn arwain at fwy o bobl yn ymddiddori mewn diwylliant, yn darparu cyfleoedd dysgu ac yn helpu ein cymunedau i ffynnu. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r cyfleusterau newydd maes o law, ac rwy'n annog pawb i fynd i weld yr hyn mae eu hamgueddfa, eu harchif neu eu llyfrgell leol yn eu cynnig”.
Yn ystod ei ymweld ag Archifau Morgannwg, aeth y Gweinidog i weld arddangosfa'r Senedd a'r Rhyfel Byd Cyntaf a fydd yn para tan 28 Mehefin. Ar ben hynny, yn ystod Blwyddyn y Môr, cafodd y Gweinidog gyfle i weld deunydd o gasgliadau cymunedau morol ac arfordirol.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Roedd ymweld ag Archifau Morgannwg yn ddiddorol iawn, ac yn gyfle gwych i ddysgu am waith ardderchog y gwasanaeth. Dylid llongyfarch y chwech awdurdod sy'n ariannu Archifau Morgannwg ar ffrwyth llafur y bartneriaeth sydd wedi arwain at adeilad modern a blaengar. Mae hefyd wedi sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn dda ac mewn ffordd arloesol. Mae’r Archif yn cynnwys cymaint o wybodaeth y gall pobl ei defnyddio i ddarganfod hanes eu teuluoedd, eu cymunedau a'u stori nhw eu hunain".