Bydd Cymru yn croesawu dros 250 o gynadleddwyr twristiaeth dylanwadol sydd yng Nghaerdydd ar gyfer Cynhadledd Flynyddol UKinbound 2018.
Yn ogystal â'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd y cynadleddwyr yn mynd i weithdai busnes yn ôl eu hamserlen, digwyddiadau rhwydweithio a chinio ffurfiol UKinbound a seremoni Gwobrau Rhagoriaeth, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru o dan arweiniad y digrifwr o Gymru, Rod Woodward.
Mae Croeso Cymru wedi cydweithio'n agos ag UKinbound i sicrhau fod pawb sy'n bresennol yn cael profiad o gynnyrch twristiaeth amrywiol Cymru. Ar ddydd Gwener 9fed Chwefror bydd cynadleddwyr yn dechrau ar daith ymgyfarwyddo i atyniadau amlwg yng Nghaerdydd, gan gynnwys Stadiwm y Principality, Castell Caerdydd a Bae Caerdydd.
Mae cynadleddwyr o gwmnïau teithiau hefyd wedi cael cynnig cyfres o deithiau ymgyfarwyddo dros y penwythnos, rhwng dydd Gwener 9fed a dydd Sul 11eg o Chwefror. Mae'r amserlenni yn cynnwys amrywiol leoliadau gwych fel Castell Cyfarthfa, Distyllfa Penderyn, Cwm Elan, Yr Ysgwrn, Ogofau Dwfn Llechwedd, Pentref Portmeirion, Castell Conwy a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte.
Mae'r gynhadledd yn llwyfan ardderchog i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Mae cyfarfod y busnesau twristiaeth o Gymru a gweld eu cynnyrch yn ffordd wych o arddangos diwydiant twristiaeth Cymru - a gall wneud gwahaniaeth mawr i a yw Cymru yn cael ei chynnwys mewn taflen wybodaeth neu daith.
Cafodd gwerth £23.8 miliwn o fusnes twristiaeth ei gynhyrchu yng Nghymru yn 2016 o sampl o 533 o gwmnïau teithiau sy'n dod i'r DU, a chwmnïau rhyngwladol a domestig y mae Croeso Cymru wedi'u targedu - ac mae'r rhan hwn o'r busnes wedi gweld twf sylweddol dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae Croeso Cymru yn gweithio gyda UKinbound fel un ffordd o gynyddu cyfran Cymru o'r ymwelwyr o dramor sy'n dod i'r DU.
Bydd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas yn dod i Ginio Mawreddog y Gynhadledd, a dywedodd cyn y digwyddiad:
"Dwi'n falch iawn o estyn croeso cynnes iawn i Gymru i Gynhadledd Flynyddol UKinbound yng Nghaerdydd, ac rwy'n edrych ymlaen at groesawu'r cynadleddwyr yn bersonol yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i godi statws Cymru o fewn diwydiant twristiaeth y DU a hyrwyddo'r gyrchfan i gwmnïau amlycaf y wlad sy'n trefnu teithiau i'r DU. Dwi'n hyderus y bydd y cynadleddwyr yn gweld cyrchfan gyfoes, o safon uchel fydd yn apelio at eu cleientiaid rhyngwladol.
“Mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag UKinbound wrth inni ddathlu Blwyddyn y Môr 2018 - ymgais i Gymru ddod yn amlwg fel prif gyrchfan arfordirol Prydain yn yr 21ain ganrif - gyda cynnyrch, digwyddiadau a phrofiadau o safon ryngwladol. Croeso i Gymru/ Welcome to Wales.”
Meddai prif swyddog gweithredol UKinbound, Deirdre Wells OBE,
"Rydyn ni'n falch iawn o fod yng Nghymru ar gyfer ein cynhadledd yn 2018 ac yn teimlo'n gyffrous i groesawu cynadleddwyr i ddinas wych Caerdydd. Mae twristiaeth i'r DU yn refeniw hollbwysig i fusnesau ledled Prydain a Chymru, a bydd dod â dros 250 o'n haelodau i Gaerdydd yn golygu y gallant nid yn unig ganfod yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, ond hefyd gyfleoedd masnachol a gwybodaeth i helpu i ddatblygu eu busnesau yn 2018."