Cafodd enillwyr rhanbarthol Gwobrau Twristiaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw
Ar ôl i 400 o enwau ddod i law ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cymru, cafodd 44 o fusnesau eu dewis yn enillwyr rhanbarthol. Byddan nhw nawr yn mynd ymlaen i rownd derfynol y gystadleuaeth genedlaethol (dolen allanol).
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y Celtic Manor Resort, ddydd Iau, 8 Mawrth.
Dyma’r categorïau:
- Y Gwesty Gorau
- Y Llety Gwely a Brecwast Gorau
- Y Llety Hunanddarpar Gorau
- Y Safle Gwersylla, Glampio neu Garafanau Gorau
- Yr Atyniad Gorau
- Y Gweithgaredd Gorau
- Y Digwyddiad Gorau
- Y Lle Bwyta Gorau
- Y Gyrchfan Orau
- Person Ifanc Twristiaeth y Flwyddyn
- Gwobr i Fusnes Arloesol Twristiaeth
Cliciwch yma i weld pwy gafodd eu dewis yn enillwyr rhanbarthol, a fydd yn mynd ymlaen i gystadleuaeth genedlaethol Gwobrau Twristiaeth Cymru 2018.
Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Dw i wrth fy modd yn cael cyhoeddi’r enillwyr rhanbarthol heddiw, a llongyfarchiadau i bob un ohonynt am gyrraedd y rownd derfynol. Rydyn ni wedi gweld cystadleuwyr o safon eithriadol o dda eleni – ac maent i gyd yn enghreifftiau rhagorol o’r hyn y mae busnesau twristiaeth yng Nghymru’n gallu ei gynnig. Dw i’n edrych ymlaen at ddathlu llwyddiannau’r diwydiant twristiaeth yn y digwyddiad Gwobrau Twristiaeth Cymru, yn y Celtic Manor Resort fis nesaf."
Dywedodd Pennaeth y Celtic Manor Resort, Ian Edwards:
"Rydyn ni’n falch iawn o gynnal Gwobrau Twristiaeth Cymru 2018 ac rydyn ni’n edrych ymlaen at noson wych yn dathlu esiamplau gorau’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr rhanbarthol a phob lwc i bawb yn y rownd derfynol, yma yn y Celtric Manor. Roedden ni’n falch iawn o ennill y Wobr Aur llynedd ar gyfer y Busnes Twristiaeth Gorau, a gwyddom y bydd llawer mwy o enillwyr teilwng yn cael eu cydnabod eleni."