Bu’r Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Twristiaeth, yn ymweld â Choedwig Cwmcarn heddiw i ddathlu’r newyddion bod yr atyniad yn mynd i gael £160,000
Mae’r prosiect hwn wedi cael arian gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a thrwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Bydd £128,000 o gynllun Llywodraeth Cymru: Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth, a £32,000 o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn sicrhau y gall yr atyniad poblogaidd hwn wella’r hyn y mae’n ei gynnig i ymwelwyr drwy ddatblygu gweithgareddau sy’n fwy addas i deuluoedd a gwella’i gyfleusterau presennol.
Bydd yr arian yn talu am nifer o welliannau megis:
- Creu mwy o lwybrau beicio - bydd 3km yn cael eu hychwanegu at y llwybrau beicio presennol, sy’n denu beicwyr mynydd o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
- Gwella’r llwybrau cerdded presennol – gwelliannau i’r llwybrau cerdded presennol gan gynnwys arwyddion newydd ledled y safle, arwyddion llwybrau newydd a phaneli gwybodaeth wrth y prif safleoedd o ddiddordeb.
- Creu parth cyrraedd a chroeso newydd wrth fynedfa’r safle – gan gynnwys waliau cerrig sychion, lloriau newydd, arwyddion, paneli gwybodaeth a gwaith celf. Bydd coed a blodau brodorol yn cael eu plannu yn y parth hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet, sy’n gyfrifol am atyniadau i ymwelwyr:
"Mae Coedwig Cwmcarn yn parhau i fod yn un o’r prif atyniadau i ymwelwyr yn y sir ac mae’n denu cerddwyr a beicwyr mynydd o bob cwr o Gymru a hyd yn oed y tu hwnt iddi. Bydd yr atyniad yn elwa’n fawr ar y swm sylweddol hwn o arian gan sicrhau y gallwn ni wella’r hyn sy’n cael ei gynnig i ymwelwyr am flynyddoedd lawer i ddod."
Dywedodd, yr Arglwydd Elis Thomas, y Gweinidog Twristiaeth:
Yn ogystal, mae’r prosiect yn rhan allweddol o Barc Tirwedd i’r Cymoedd ac yn fodel y mae Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, sydd hefyd yn gadeirydd Tasglu’r Cymoedd, yn awyddus ei ddefnyddio mewn ardaloedd eraill. Dywedodd:"Mae cynllun y Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth yn ffordd ardderchog inni helpu’r sector twristiaeth i wella cyfleusterau ac amwynderau lleol. Mae ymwelwyr yn disgwyl i bob agwedd ar eu hymweliad fod o’r ansawdd gorau, gan gynnwys llety, gwybodaeth, toiledau a meysydd parcio. Mae hyn yn gyfle inni helpu’r diwydiant twristiaeth i adeiladu ar sylfaen gadarn. Dw i wrth fy modd yn cael gweld y cynlluniau cyffroes sydd ar y gweill yma heddiw i wneud nifer o welliannu i’r atyniad poblogaidd hwn, diolch i’r hwb ariannol."
"Dw i’n benderfynol o sicrhau ein bod yn gwireddu gwir botensial Cymoedd y De drwy ddefnyddio rhinweddau’r dirwedd naturiol. Mae’n cynigion ar gyfer Parc Tirwedd i’r Cymoedd yn anelu at wneud hynny a byddant yn helpu i gysylltu’r cyfleusterau ardderchog newydd yng Nghoedwig Cwmcarn ag atyniadau eraill yn yr ardal, a denu mwy o ymwelwyr i’r ardal brydferth hon."