Bydd y Tywysog Harri a Meghan Markle yn cael cyfle i weld y traddodiadol a’r cyfoes wrth iddynt gyrraedd Castell Caerdydd brynhawn yma.
Bydd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn un o’r bobl fydd yn croesawu’r pâr, ac roedd yn awyddus i roi syniad o’r hyn fydd y cwpl brenhinol yn ei weld:
Meddai’r Arglwydd Elis Thomas:
“Dwi’n falch iawn bod y Tywysog Harri a Meghan Markle wedi dewis dod i Gymru fel un o’u hymweliadau swyddogol cyntaf ers iddynt ddyweddïo yn ddiweddar.
“Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru bod gennym draddodiad diwylliannol sy’n ffynnu, a’i fod yn fywiog ac yn amrywiol. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i’w arddangos, ei rannu a’i ddathlu gyda gweddill y byd, ac mae gwneud hynny mewn cwmni mor bwysig yn fraint wirioneddol.
“Mae’r croeso sydd i’w gael yng Nghymru yn hanesyddol, ond mae ein henw da fel cyrchfan o’r safon uchaf i ymwelwyr, fel cynhyrchwyr bwyd, canolfan antur, lleoliad digwyddiadau mawr a sawl peth arall hefyd yn dod yn amlycach. Dwi’n gobeithio y bydd yr ymweliad hwn yn rhoi blas ar yr amrywiaeth a safon yr hyn sy’n cael ei gynnig yma yng Nghymru.
Yn wir, mae ein croeso brenhinol yng Nghymru yn mynd y tu hwnt i’r ymweliad hwn a byddem yn falch iawn o dynnu eu sylw at rannau gwych eraill o Gymru yn y dyfodol.”