Bydd Luke Evans, yr actor o Gymru sy'n enwog am ffilmiau hynod lwyddiannus fel Beauty and the Beast, Girl on the Train a The Hobbit, i'w weld unwaith eto ar ein sgriniau teledu Ddydd Nadolig
Cafodd yr hysbyseb, a fydd ar gael ar-lein o heddiw ymlaen, ei chreu i lansio ymgyrch dwristiaeth Croeso Cymru ar gyfer 2018 − Blwyddyn y Môr. Mae'n dangos Evans yn hedfan awyren fôr ar hyd arfordir trawiadol Cymru, gan roi cyfle inni weld golygfeydd ysblennydd, gweithgareddau ar y môr, a bywyd gwyllt yr arfordir.
Bydd ffilm yr ymgyrch i'w gweld am y tro cyntaf ar y teledu Ddydd Nadolig yn ystod rhifyn Nadolig arbennig o raglen Victoria o 9:45pm ymlaen ar ITV a hefyd yn ystod rhifyn Nadolig arbennig The Great British Bake Off a fydd ar yr awyr Ddydd Nadolig o 8.15 pm ymlaen ar Sianel 4. Bydd y ffilm yn cael ei dangos yng Nghymru ar S4C ac ITV Cymru rhwng 1-7 Ionawr.
Luke, sy'n hanu o Bont-y-pŵl, oedd seren un o ffilmiau mwyaf proffidiol y flwyddyn – fersiwn newydd Disney o Beauty and the Beast – cyn iddo ddychwelyd i wlad ei febyd i ffilmio'r hysbyseb.
Gan ddechrau ym mherfeddion Eryri, mae Evans yn hedfan awyren fôr glasurol, gan esgyn o Lyn Gwynant a dilyn yr arfordir ysblennydd cyn glanio o'r diwedd ym Mae Caerdydd wrth i'r haul fachlud.
Wrth iddo'n tywys ar hyd y daith, mae'n cyfeirio at amryfal ffeithiau daearyddol, diwylliannol a hanesyddol ac yn dathlu'r ffaith mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i ddarparu llwybr troed pwrpasol sy'n dilyn yr arfordir ar ei hyd – pob un o'r 870 o filltiroedd ohono.
Wrth sôn am ei gysylltiad ag ymgyrch Blwyddyn y Môr Cymru, dywedodd Luke:
"Roedd cael gweld arfordir Cymru fel hyn yn anrhydedd ac yn fraint.
"Aethon ni heibio i gannoedd o draethau, harbyrau, cilfachau ac ynysoedd – gan wylio llamhidyddion a dolffiniaid trwyn potel yn chwarae yn y pellter – a phobl yn mwynhau rhwyfo mewn ceufadau a phadlfyrddio a chymryd rhan mewn arforgampau. Mae cymaint i'w wneud ar hyd arfordir Cymru.
"Mae gennyf atgofion melys iawn o dreulio gwyliau ar yr arfordir yng Nghymru, a dw i'n trïo dod 'nôl yma mor aml ag y galla i. Mae'n gyfle i gael seibiant llwyr o ffair a ffwndwr bywyd bob dydd ac mae'n fy atgoffa o ba mor lwcus oeddwn i gael dod i oed ynghanol golygfeydd mor anhygoel."
Mae ffilm Croeso Cymru ar gyfer 2018 yn ddilyniant i stori Blwyddyn Chwedlau Cymru a ddechreuodd yn 2017. Mae'n epig fach o ddarganfyddiadau ac anturiaethau a gafodd ei chyfarwyddo gan Marc Evans (Y Gwyll/Hinterland, Safe House, Trauma), ac mae'n rhoi golwg o'r awyr inni ar forweddau hardd Cymru.
Yr actores Hannah Daniel sy'n trosleisio fersiwn Gymraeg yr hysbyseb deledu. Ganed Hannah yng Nghaerdydd ac mae'n fwyaf adnabyddus am ei rhan fel DS Owens yn y Gwyll/Hinterland (BBC) ac fel Beca Matthews yn y ddrama gyfres Gwaith Cartref ar S4C. Mae Hannah i'w gweld ar hyn o bryd yn Un Bore Mercher, drama ddiweddaraf S4C ar nos Sul, yn chwarae Cerys Jones. Bydd y fersiwn Saesneg, Keeping Faith, ar y BBC ym mis Ionawr 2018.
Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Mae'n hysbyseb ar gyfer Blwyddyn y Môr yn harneisio doniau creadigol gorau Cymru − gan gyfuno’n golygfeydd ysblennydd â doniau Luke Evans, yr actor o Hollywood, doniau Hannah Daniel, a hefyd ddoniau cynhyrchwyr o'n sector creadigol. Mae'r hysbyseb yn dangos bod Cymru'n wlad hyderus a bydd yn denu pobl i ddysgu mwy am yr hyn y bydd gan Gymru i'w gynnig yn ystod Blwyddyn y Môr 2018."
Mae'r gweithgarwch hwn yn rhan o ymgyrch farchnata ehangach ar sawl platfform sy'n hyrwyddo Cymru i'r byd fel cyrchfan arfordirol o'r radd flaenaf yn ystod Blwyddyn y Môr. Bydd y ffilm yn ôl ar y sgrin ym mis Mawrth i gyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi a bydd hysbysebu helaeth hefyd yng ngorsaf Waterloo yn Llundain − rhan o ymgyrch integredig o weithgareddau ar-lein ac all-lein.
Os ydych am weld ffilm yr ymgyrch wrth iddi gael ei darlledu am y tro cyntaf erioed, cofiwch wylio'r hysbysebion yn ystod GBBO a Victoria ddydd Nadolig. Os hoffech ei gweld cyn hynny, bydd i'w gweld o 22 Rhagfyr ymlaen ar sianeli Croeso Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gweler: YouTube (dolen allanol)