Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos arwyddion fod 2017 yn flwyddyn lwyddiannus arall i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
Mae Baromedr y Diwydiant Twristiaeth yn dangos bod 42% o fusnesau wedi cael mwy o ymwelwyr nag y cawsant y llynedd, tra bod 39% yn nodi lefel debyg. Mae lleoliadau bwyd yn gwneud yn arbennig o dda eleni, gyda mwy na hanner ohonynt (54%) yn bwydo mwy o bobl yn 2017 nag y gwnaethant y llynedd.
Yn dilyn blwyddyn gref, mae’r disgwyliadau’n uchel ar gyfer 2018. Mae tua hanner yr ymatebwyr yn disgwyl mwy o ymwelwyr y flwyddyn nesaf, gyda 45% arall yn disgwyl yr un lefel.
Gyda 50% o atyniadau a gweithredwyr gweithgareddau yn derbyn mwy o ymwelwyr, mae 2017 wedi bod yn flwyddyn dda i’r diwydiant yng Nghymru. Ac o’r rhai sy’n nodi cynnydd, mae 46% yn dweud bod eu marchnata eu hunain wedi helpu i godi’r ffigurau hynny.
Dangosodd yr arolwg hefyd fod busnesau’n nodi mwy o ymwelwyr o’r DU – mae 39% o weithredwyr wedi sylwi bod mwy o bobl o Brydain yn mwynhau gwyliau a gwyliau byr yng Nghymru.
Yn ystod ymweliad â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol, clywodd y Gweinidog Twristiaeth, Dafydd Elis-Thomas, fod yr Ardd wedi cael blwyddyn lwyddiannus hefyd – gan weld cynnydd o bron i 25% yn nifer yr ymwelwyr yn 2017.
Meddai’r Gweinidog Twristiaeth:
“Rwy’n hynod falch o gael y portffolio Twristiaeth ar adeg pan fo pethau’n edrych yn addawol iawn ar gyfer 2017. Er fy mod i’n gwbl ymwybodol o’r farchnad hynod gystadleuol rydyn ni’n gweithredu o’i mewn, mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref ac mae’r ffigurau hyn yn brawf o ba mor dda mae’r diwydiant wedi bod yn perfformio. Mae’n newyddion gwych bod yr Ardd wedi cael blwyddyn lwyddiannus hefyd, ac mae clywed am y cynlluniau twf ar gyfer y dyfodol yn dangos hyder y diwydiant.”
Meddai Cyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Huw Francis:
“O weld sut mae pethau ar hyn o bryd, mae dyfodol yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn edrych yn llewyrchus iawn. Mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n galed iawn i ehangu apêl yr Ardd ac mae datblygiadau newydd wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith pobl leol a thwristiaid.”
“Gyda help gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi buddsoddi mewn parc chwarae newydd, drysfa bêls gwellt, sorbio dŵr a thŷ newydd sbon i loÿnnod byw trofannol, a greodd lawer iawn o ddiddordeb.
“Eleni, rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Pembrokeshire Falconry i greu Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain sydd wedi helpu i gynyddu ymhellach nifer yr ymwelwyr, gydag arddangosiadau hedfan dyddiol gan adar ysglyfaethus brodorol. Ac mae mwy i ddod. Y targed yw cynyddu nifer yr ymwelwyr 10% bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf.”