Mae Venue Cymru yn Llandudno wedi ennill buddsoddiad o £2.8 miliwn, a fydd yn gwneud y Gogledd yn fwy deniadol i’r sector digwyddiadau busnes.
Bydd y gwaith i adnewyddu Venue Cymru fel canolfan digwyddiadau busnes yn dechrau yn mis Mai 2018 ac yn gorffen erbyn diwedd y flwyddyn. Mae yn agos at £1miliwn o fuddsoddiad Ewropeaidd wedi’i sicrhau ar gyfer y gwaith. Mae’r prosiect yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru: Cyrchfannau Denu Twristiaeth, a ariennir gan yr UE, dan arweiniad Croeso Cymru.
Mae Venue Cymru yn cynnal dros 800 o gynadleddau a digwyddiadau bob blwyddyn. Roedd perchnogion Venue Cymru, Cyngor Sir Conwy, yn gweld bod addasu’r adeilad yn ffordd o allu diwallu’r gofynion cynyddol ac yn awyddus i weld y ganolfan yn cystadlu’n well yn y sector.
Bydd rhaglen i ailgynllunio’r adeilad presennol yn sicrhau y bydd y lle mewnol yn gallu cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon ar gyfer cynnal sioeau a digwyddiadau. Bydd gwella ansawdd yr adeilad yn denu mwy o ymwelwyr i’r Gogledd ac i Venue Cymru gan helpu i ymestyn y tymor twristiaeth.
Dywedodd, Dafydd Elis Thomas, y Gweinidog Twristiaeth:
“Dw i’n croesawu’r buddsoddiad hwn yn Venue Cymru, sy’n cydnabod mor bwysig yw’r ganolfan i’r sector digwyddiadau busnes yn y Gogledd. Mae buddsoddi’n hanfodol os ydym am weld yr amrywiaeth o gyfleusterau ac atyniadau o ansawdd sydd eu hangen ar y farchnad.
“Ar hyn o bryd, er bod Cymru’n denu llai na 2% o werth busnes cynadleddau a chyfarfodydd y DU gyfan, mae potensial i ddenu digwyddiadau cymdeithasau Prydeinig a rhyngwladol, cyfarfodydd y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, cyfarfodydd corfforaethol a digwyddiadau datblygu tîm, i’n canolfannau a chyrchfannau ardderchog ni. Mae digwyddiadau busnes yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Un o brif fanteision eu cynnal yw’r ganran uchel o gynrychiolwyr sy’n dychwelyd i’r ardal am wyliau.
“Mae gan Gymru hanes gwych o gynnal llawer o ddigwyddiadau mwyaf y byd. Rydyn ni’n edrych rŵan at adeiladu ar ein profiad i ddenu digwyddiadau busnes blaenllaw i’n gwlad. Mae arddangos mewn digwyddiadau byd-eang fel ibtm world yn holl bwysig os ydym am wireddu’n huchelgais i godi proffil Cymru yn y farchnad hon fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau busnes.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Louise Emery Aelod Cabinet Conwy ar gyfer datblygu economaidd,
"Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y prosiect cyffrous hwn. Mae Venue Cymru eisoes yn cyfrannu mwy na £33 m y flwyddyn i economi Gogledd Cymru ac yn cefnogi cannoedd o swyddi. Bydd y datblygiad hwn yn helpu i ni adeiladu ar hyn, a thyfu twristiaeth busnes a digwyddiadau yng Nghonwy.”
Mae Croeso Cymru yn arddangos yn yr ibtm gyda’i bartneriaid yn sector twristiaeth Cymru: Caerdydd, ICC Cymru a Gwesty’r Fro, ochr yn ochr â VisitEngland, VisitScotland a London and Partners. ibtm world yw’r digwyddiad byd-eang ar gyfer y sector digwyddiadau, cynadleddau a chyfarfodydd ac mae Croeso Cymru wedi lansio ymgyrch newydd yn ddiweddar ar gyfer denu cynadleddau a digwyddiadau mawr busnesau i Gymru.