Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018 yn gwahodd enwebiadau yn awr.
Cynhelir y gwobrau gan Croeso Cymru i ddathlu'r gorau o ddiwydiant twristiaeth Cymru - gan arddangos busnesau twristiaeth Cymru a llwyddiannau'r diwydiant.
Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Iau, 8 Mawrth 2018 yng Ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd a gwahoddir enwebiadau yn awr ar gyfer amryw o gategorïau.
Mae categorïau’r gwobrau fel a ganlyn:
- Gwesty Gorau
- Gwely a Brecwast Gorau
- Llety Hunan-ddarpar Gorau
- Maes Carafanau, Gwersylla neu Glampio Gorau
- Atyniad Gorau
- Gweithgaredd Gorau
- Digwyddiad Gorau
- Lle Gorau i Fwyta
- Cyrchfan Orau
- Person Ifanc Twristiaeth y Flwyddyn
- Gwobr Arloesi Busnesau Twristiaeth
Bydd enillwyr y gwobrau rhanbarthol yn cystadlu yn y Gwobrau Cenedlaethol ym mis Mawrth. Roedd y Gweinidog Twristiaeth, Dafydd Elis Thomas, yn bresennol yn Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru wythnos diwethaf, lle y cyhoeddwyd rhai o’r enillwyr rhanbarthol cyntaf a fydd yn cystadlu ar gyfer y Gwobrau Cenedlaethol.
Wrth sôn am y gwobrau, dywedodd y Gweinidog Twristiaeth:
“Bu Gwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru yn llwyddiant ysgubol ac mae’n wych gweld yr enillwyr yn awr yn cystadlu yng Ngwobrau Cymru. Rwy’n annog pob busnes twristiaeth ar draws gweddill Cymru i enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau hyn; mae’r ymdrech o gystadlu am wobrau yn gallu bod yn hynod o werth chweil, yn enwedig i godi morâl y tîm a’r staff. Wrth gwrs, mae dweud mai chi yw’r ‘gorau yng Nghymru’ hefyd yn gallu rhoi hwb i’ch busnes o safbwynt marchnata.
“Mae ansawdd yr hyn sydd i’w gynnig gan y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth, ac mae’r Gwobrau yn gyfle i bawb ddathlu llwyddiannau’r diwydiant ac arddangos ansawdd rhagorol ein sector twristiaeth bywiog.
“Dyma ein cyfle i roi amlygrwydd i’r diwydiant twristiaeth a thalu teyrnged i’r sawl sy’n ymroddedig ac yn angerddol ynghylch eu busnesau, twristiaeth a Chymru.”
Yn siarad yr wythnos diwethaf yng Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Reolwr, Jim Jones fod ansawdd yr ymgeiswyr eleni yn tanlinellu pam bod y rhanbarth yn cael eu gydnabod fwyfwy fel lleoliad o safon byd ac sy'n cynhyrchu £2.8 biliwn bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 40,000 o bobl.
Dywedodd:
"Mae’r gwobrau wedi bod yn llwyddiannus iawn a hoffwn longyfarch yr enillwyr. Fodd bynnag, yn fy llygaid i mae pob un a enwebwyd yn enillydd ac mae pob un wedi chwarae rhan i wneud eleni yn flwyddyn lwyddiannus ar gyfer Twristiaeth Gogledd Cymru.
"Mae'r digwyddiad hwn yn arddangos y gorau o ogledd Cymru ac rydym wedi gweld cymaint o enwebiadau anhygoel. Bydd nifer o’r enillwyr bellach yn mynd ymlaen i gynrychioli Gogledd Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru yn 2018 a dymunaf bob llwyddiant iddynt."
Gall busnesau twristiaeth enwebu eu hunain, neu gall unrhyw un enwebu busnes sy’n enillydd teilwng yn eu barn hwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma (dolen allanol). Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener, 12 Ionawr 2018.