Heddiw, mewn datganiad, cadarnhaodd y Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd, y bydd gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, yn parhau yn rhan o Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Fel is-adran o’r Llywodraeth, mae Cadw wedi canolbwyntio cryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf ar amrywio ei apêl, gan ddod yn fwy cynaliadwy yn economaidd a gwella’r ‘10 atyniad mawr’. Dyma rywbeth sydd wedi talu ar ei ganfed, mae’r nifer uchaf erioed o ymwelwyr wedi ymweld â hwy yn 2017. Mae hyn yn gynnydd o 8.4% ar nifer yr ymwelwyr yn ystod yr haf cynt.
Yn gynharach eleni, cyflwynwyd adroddiad grŵp llywio (Cymru Hanesyddol - Ar drywydd Llwyddiant, Cadernid a Chynaliadwyedd ar gyfer Treftadaeth Cymru). Ynddo, roedd argymhelliad penodol ynghylch llywodraethu Cadw yn y dyfodol, ac y dylid bwrw ymlaen ag achos busnes a fyddai’n nodi’r opsiwn orau.
Ystyriodd yr achos busnes argymhellion y grŵp llywio. Argymhellwyd y dylai Cadw fod yn gorff elusennol neu’n asiantaeth weithredol y tu allan i Lywodraeth Cymru. Ystyriwyd hyn o gymharu â chadw pethau fel y maent ar hyn o bryd, a chynhaliwyd dadansoddiad manwl o swyddogaethau Cadw a’r ysgogwyr am newid.
Aethpwyd â’r achos gerbron y Cabinet fis Hydref, ac roedd Dafydd Elis-Thomas yn hapus i roi’r penderfyniad ar waith i dderbyn yr argymhelliad mai’r ffordd orau o adeiladu a datblygu llwyddiannau Cadw yw cadw’r asiantaeth o fewn y Llywodraeth.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant:
“Rwyf wedi edmygu gwaith da Cadw ers peth amser. Maent yn gweithio yn ddiflino i arddangos y dreftadaeth wych sydd gan ein gwlad, a sicrhau bod modd i bawb fwynhau hynny.
“Gwnaed hyn o fewn y Llywodraeth y rhan fwyaf o’r amser. Er ei bod yn briodol edrych ar yr opsiynau, yn y cyswllt hwn, ynghylch sut i adeiladu ar y llwyddiant hwn, rwy’n falch o allu gweithredu penderfyniad y Cabinet. Rwy'n derbyn argymhelliad clir yr achos busnes, sef bod Cadw yn aros yn rhan o Lywodraeth Cymru.
“Ond, mae’n hanfodol bwysig bod Cadw yn edrych am gyfleoedd i ddatblygu, wrth fanteisio ar arferion gorau a meddu ar yr hyblygrwydd a’r dewrder i wneud y penderfyniadau gorau i’w holl randdeiliaid ac i filoedd o safleoedd hanesyddol sy’n creu ein hamgylchedd hanesyddol unigryw ni.
“Yn hynny o beth, rwy’n falch hefyd o dderbyn argymhellion sy’n ymwneud â rhagor o ymreolaeth mewn perthynas â rhai agweddau ar Cadw. Mae'r rhain yn cynnwys sefydlu system ffurfiol o ddirprwyo a rhyddid mewnol, gwneud y gorau o bartneriaethau strategol rhwng sefydliadau cenedlaethol a sefydlu bwrdd gweithredu mewnol.
“Bydd yr argymhellion hyn yn gwneud y mwyaf o’r cyfraniad y gall Cadw ei wneud i sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn hygyrch ac yn cael ei ddiogelu'n iawn. Yn benodol, byddant yn helpu i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu parhau i fwynhau henebion, atyniadau a digwyddiadau o ansawdd uchel.”
Cadw yw gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol, ac mae'n gweithio i sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn hygyrch ac yn cael ei ddiogelu'n iawn. Mae’n edrych ar ôl 129 o henebion ledled Cymru ac yn eu hagor i’r cyhoedd. O’r rheini, mae 29 yn safleoedd sydd wedi eu staffio ac mae’r gweddill yn safleoedd rhad ac am ddim ac agored.