Mae’r adroddiad blynyddol ar ystadegau Defnydd Llety Twristiaeth Cymru ar gyfer 2016 yn dangos bod y flwyddyn honno wedi bod yn un brysur i'r sectorau lletygarwch yng Nghymru.
Ar gyfartaledd, y gyfradd defnydd gwelyau flynyddol ar gyfer pob llety â gwasanaeth ar draws Cymru yn 2016 oedd 47%, a'r gyfradd defnydd ystafelloedd flynyddol oedd 61%.
Mae'r cyfraddau defnydd cyfartalog blynyddol yn y sector gwestai yn parhau ar y lefelau uchaf a welwyd yn ystod y 11 mlynedd ddiwethaf. Gwelwyd bod y gyfradd honno ar gyfer defnydd gwelyau mewn tai llety/lleoliadau gwely a brecwast wedi cynyddu o 31% yn 2015 i 35% yn 2016, gyda'r gyfradd defnydd ystafelloedd yn cynyddu o 37% i 39%.
O ran y sector hunanarlwyo a rhandai, 52% oedd y gyfradd defnydd gyfartalog yn 2016, a oedd yn ddau bwynt canran yn uwch nag yn 2015.
Roedd y sector carafanau wedi perfformio'n hynod o dda yn 2016 pan welwyd cynnydd sylweddol o 75% yn 2015 i 91% yn 2016 yn y cyfartaledd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai a mis Hydref. Roedd hyn yn gynnydd o 16 o bwyntiau canran a'r cyfartaledd uchaf a welwyd ar gyfer y cyfnod dan sylw.
Roedd parciau ar gyfer carafanau teithiol a gwersylla hefyd wedi perfformio'n dda. Cofnodwyd cyfradd o 41% yn 2016, sef y gyfradd uchaf a gofnodwyd ers 2011 ac a oedd yn 4 pwynt canran yn uwch na'r gyfartaledd ar gyfer yr un tymor yn 2015.
Dywedodd Ken Skates:
Mae'r Adroddiad Blynyddol i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru."Mewn marchnad hynod gystadleuol, mae'r ystadegau defnydd diweddaraf ar gyfer 2016 yn dangos bod twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref ac yn adlewyrchu llwyddiant y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Byddwn yn dal ati i hyrwyddo Cymru mewn marchnadoedd domestig a thramor i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddenu ymwelwyr tramor a'r rhai sydd am aros yng Nghymru oherwydd y bunt wan.
"Gyda llwyddiant y Flwyddyn Antur a'r Flwyddyn Chwedlau, mae Croeso Cymru y mis hwn wedi cynnal sioeau teithiol ym mhob un o'r pedwar rhanbarth er mwyn rhoi cyfle i'r diwydiant twristiaeth edrych ar sut y gall gyfrannu at Flwyddyn y Môr 2018. Rwyf wrth fy modd gyda'r ffordd y mae'r diwydiant wedi cefnogi'r blynyddoedd thematig – maent yn dangos sut y gallwn gydweithio i drosglwyddo neges bendant a rhesymau da dros ddenu ymwelwyr i Gymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r diwydiant er mwyn sicrhau y bydd 2018 yn flwyddyn lwyddiannus."