Mae gwaith Llywodraeth Cymru o ddatblygu strategaeth integredig newydd ar gyfer hyrwyddo Cymru wedi cyrraedd restr fer fyd-eang ar gyfer arddangosfa flynyddol Beazley Designs.
Mae Amgueddfa Ddylunio Llundain wedi cyhoeddi’r enwebeion ar gyfer degfed penblwydd gwobr Ddylunio flynyddol Beazley. Mae’r wobr flynyddol a’r arddangosaf sy’n cyd-fynd â hi, sy’n digwydd ar safle’r Amgueddfa Ddylunio yn Kensington, Gorllewin Llundain, yn bwriadu dangos dros 60 o’r prosiectau dylunio gorau ledled y wlad yn ystod y 12 mis diwethaf. Enillydd cyffredinol y llynedd oedd lloches ffoaduriaid mewn pecyn fflat gan Ikea, sef Better Shelter.
Ynghyd â gwaith Smörgåsbord, mae tri prosiect ar ddeg wedi eu henwebu yn y categori Graffeg, yn amrywio o Faner Cenedl y Ffoaduriaid a gynlluniwyd ar gyfer y tîm cyntaf o ffoaduriaid yn y Gemau Olympaidd; i logo a delwedd newydd ar gyfer Amgueddfa Gelf Reykjavik.
Cafodd brand newydd Cymru ei gyflwyno yn gyntaf ym mis Ionawr 2016 drwy’r ymgyrch dwristiaeth Blwyddyn Antur. Cynhaliwyd y gwaith i ymateb i awydd Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull mwy integredig o hyrwyddo Cymru i’r byd fel lle i ymweld ag ef, masnachu, buddsoddi a byw ynddi.
Yn ganolog i’r dull newydd hwn o hyrwyddo, mae strategaeth newydd hyderus a disgirifad atyniadol sy’n rhoi platfform i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol. Agwedd allweddol arall y brand yw’r ddelwedd weledol, gan gynnwys portread modern o’r ddraig ar faner Cymru. Mae dull newydd o dynnu lluniau hefyd a theip pwrpasol, Cymru Wales Sans, wedi’i ysbrydoli gan dreftadaeth Cymru yn y byd argraffu, gan gynnwys y llythrennau dwbl sy’n unigryw i’r Gymraeg.
Mae’r enwebiadau ar gyfer arddangosfa flynyddol Dyluniadau Beazley yn canolbwyntio’n bennaf ar y ffurfdeip newydd. Mae hyn yn dilyn y broliant blaenorol gan Wobrau Dylunio Ewropeaidd 2017 ble yr enillodd y ffurfdeip y Wobr Aur ar gyfer y dyluniad gorau yn y sioe ar draws bob categori. Mae’r sector teithio wedi cydnabod y dull newydd o weithio hefyd gan iddynt ennill gwobrau yng Ngwobrau Marchnata Teithio 2017.
Fel yr eglurodd Dylan Griffith o Smörgåsbord’s:
“Mae gan Gymru ei hiaith ei hun a’r Gymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop. Gan ei bod yn wahanol iawn i’r Saesneg, roeddem yn teimlo bod angen creu ffurfdeip pwrpasol sy’n rhoi lle amlwg i hanes cyfoethog y wlad a tharddiad y Gymraeg. Y ffurfdeip Cymru Wales Sans yw conglfaen brand newydd Cymru, ac mae wedi dod yn fath o linyn aur sy’n uno’r gwaith graffeg ar draws pob sector.”
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a’r Seilwaith:
“Ein nod oedd creu hunaniaeth atyniadol a chyson yn weledol i helpu i adrodd storïau newydd, diddorol am Gymru, i ategu hanes, prydferthwch a diwylliant cyfoethog ein gwlad. Mae bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr amlwg hon yn dangos bod ein dull arloesol o weithio yn sefyll allan yn y farchnad fyd-eang.
“Mae’r dull hwn o weithio wedi derbyn ymateb gwch drwy’r ymgyrchoedd Blwyddyn Antur a Blwyddyn y Chwedlau. Mae hefyd wedi ei ddefnyddio i wella ein dull o gyflwyno Cymru fel lleoliad i fusnesau fasnachu a buddsoddi, ansawdd ein bwyd a’n diod, ac mae wedi ei ddefnyddio ar gyfer ymgyrch lwyddiannus i recriwtio mwy o Feddygon Teulu yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o lefel y cymorth a’r brwdfrydedd y mae’r dull newydd hwn o weithio eisoes wedi ei ddenu – yn enwedig o’r gymuned twristiaeth a busnes yng Nghymru, a hefyd o frandiau o safon o’r sector preifat sydd wedi dangos diddordeb i gydweithio’n agosach â ni i hyrwyddo Cymru i’r byd.
“Er bod y gwobrau hyn yn bwysig, rydym hefyd wedi gweld tystiolaeth bod brand newydd Cymru a’r ymgyrchoedd cysylltiedig eisoes yn gwneud gwahaniaeth i’r economi. Er enghraifft, daeth £370 miliwn yn ychwanegol i economi Cymru o ganlyniad i ymgyrch Croeso Cymru 2016 – sef cynnydd o 18% o gymharu â 2015.”