Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Is-gadeirydd newydd a phedwar aelod newydd i Fwrdd Chwaraeon Cymru.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi penodi pedwar aelod newydd i'r Bwrdd sef Ashok Ahir, Ian Bancroft, Christian Malcolm ac Alison Thorne. Bydd yr aelodau newydd yn dechrau eu swydd, a fydd yn para tair blynedd, ar 1 Hydref 2017.
Ar ben hynny, mae'r Gweinidog wedi ailbenodi Richard Parks a Samar Wafa yn aelodau'r Bwrdd. Byddant ymgymryd â'u rôl, a fydd hefyd yn para tair blynedd, ar 1 Medi 2017.
Penodwyd yr aelodau hyn yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.
Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, a'r prif gwmni sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud â chwaraeon. Mae Chwaraeon Cymru yn gyfrifol hefyd am ddosbarthu arian y Loteri Genedlaethol i'r campau elît ac i gampau ar lawr gwlad yng Nghymru.
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd:
"Rwy'n hynod falch o benodi Pippa Britton yn Is-gadeirydd newydd Chwaraeon Cymru, ac Ashok Ahir, Ian Bancroft, Christian Malcolm ac Alison Thorne yn aelodau'r Bwrdd. Rwyf hefyd yn falch o ailbenodi Richard Parks a Samar Wafa yn aelodau'r Bwrdd.
“Gyda'i gilydd, mae ganddynt brofiad helaeth o ysbrydoli cymunedau llai egnïol i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon, yn ogystal â dealltwriaeth o anghenion athletwyr elît. Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau newydd am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Bwrdd. Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau hynny sy'n gadael am eu gwasanaeth.
“Rwy'n hyderus bod gan y bwrdd yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol i'm helpu i a staff Chwaraeon Cymru i gyflawni ein huchelgais i greu cenedl fwy egnïol a llwyddiannus. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw.”
Dywedodd Lawrence Conway, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:
"Rwy'n falch o groesawu pum aelod newydd i'r Bwrdd. Maen nhw'n ymuno â Chwaraeon Cymru ar adeg bwysig wrth inni ddatblygu ein strategaeth gorfforaethol newydd. Bydd gwybodaeth a phrofiad eang yr aelodau yn atgyfnerthu'r Bwrdd a byddant yn gallu rhannu eu dealltwriaeth a'u safbwyntiau er mwyn llywio trafodaethau. Hoffwn ddiolch i'r aelodau sy'n gadael am eu hymrwymiad a'u cyfraniad gwerthfawr at sicrhau llwyddiant chwaraeon yng Nghymru."