Mae ymgyrchoedd marchnata haf i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan wyliau ar waith erbyn hyn yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr er mwyn denu pobl Llundain i Gymru yn ystod Blwyddyn y Chwedlau.
Bydd ymgyrch farchnata Croeso Cymru yn defnyddio sgrin enfawr yng ngorsaf Waterloo i arddangos Cymru ar ei gorau, gyda ffilm wedi’i golygu’n arbennig a fydd hefyd yn dod ag ychydig o lonyddwch a thawelwch i orsaf reilffordd brysuraf Llundain - mae 250,000 o bobl yn teithio drwy Waterloo bob dydd.
Yn dilyn y gydnabyddiaeth ddiweddar gan Lonely Planet, pan gafodd Gogledd Cymru ei henwi yn rhestr y 10 Rhanbarth Gorau ar gyfer 2017, llwyddodd Twristiaeth Gogledd Cymru - drwy weithio gyda’r chwe Phartneriaeth Rheoli Cyrchfannau yn yr ardal - i gael cymorth gan Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) Croeso Cymru, er mwyn cyflwyno ymgyrch arloesol yn Llundain i godi ymwybyddiaeth o Ogledd Cymru fel cyrchfan, ac i fanteisio ar y dyfarniad hwn a’r gydnabyddiaeth gan Lonely Planet.
Yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst, bydd chwe thacsi yn Llundain yn cael eu ‘lapio’ i greu’r argraff bod y gyrrwr ar fwrdd syrffio neu’n hedfan i lawr weiren wib. Am bedair wythnos ar ddechrau’r ymgyrch, bydd bws sy’n dilyn llwybr drwy ganol Llundain hefyd wedi’i lapio’n llawn. I gefnogi’r ymgyrch, bydd Radio X yn rhedeg cystadleuaeth ddigidol ac ar y radio lle y gall gwrandawyr ennill 3 noson yng Ngogledd Cymru i brofi drostyn nhw eu hunain yr amrywiaeth sydd ar gael o ran antur a gweithgareddau.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
“Ein nod yw annog ac ysbrydoli ymwelwyr newydd i ystyried Cymru fel cyrchfan wyliau nawr, ac i barhau i ddatblygu enw da Cymru fel lle cŵl, cyfoes a bywiog i ymweld ag ef, lle mae llawer o bethau’n digwydd. Mae ein hymgyrch haf yn cynnwys cymysgedd o hysbysebion teledu a digidol, partneriaethau gyda’r wasg a hysbysebion y tu allan i’r cartref mewn gorsafoedd tanddaearol a rheilffordd allweddol yn Llundain.
“Mae ein neges yn yr ymgyrch hon yn glir - mae Cymru’n fwrlwm o brofiadau rhyfeddol, gwyliau a digwyddiadau dros yr haf. Rydyn ni wedi datblygu cynnwys i arddangos diwylliant, treftadaeth a thirweddau cyfoethog Cymru a dathlu ein cyfoeth o ddigwyddiadau ac eiconau diwylliannol a chwaraeon. Dw i wrth fy modd bod gwaith gan ein partneriaid yng Ngogledd Cymru yn atgyfnerthu’r neges bod profiad chwedlonol yn aros amdanoch chi yng Nghymru yn ystod yr haf hwn.”
Meddai Jim Jones, rheolwr gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru:
"Rydym wrth ein bodd bod yr arian hwn gan Croeso Cymru wedi ein galluogi i weithio gyda phartneriaid ar ymgyrch yn Llundain ar De Dwwyrain. Ein nod yw i godi proffil y gydnabyddiaeth gan y Lonely Planet, ond hefyd tynnu sylw at ba mor agos yr ydym o Lundain.”
Mae’r ymgyrch Croeso Cymru hefyd yn cynnwys hysbysebion teledu, a bydd ffilm yr ymgyrch Blwyddyn Chwedlau gyda Luke Evans yn cael ei dangos ar Channel 4 yn Llundain, yn ogystal ag ar Sky Regional London a Sky Adsmart Meridian. Bydd hysbysebion print, cloriau arbennig ar gyhoeddiadau ac erthyglau nodwedd golygyddol yn ymddangos yn yr Evening Standard a’r London Metro gyda hysbysebion print a digidol yn ymddangos mewn 36 o orsafoedd rheilffordd a thanddaearol ar draws Llundain.