Mae noson o gerddoriaeth, dawns a chwedlau yn yr arfaeth ar dir swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno fel rhan o ŵyl Trakz y dref.
Bydd yr ŵyl leol flynyddol yn defnyddio ffrynt gwydr trawiadol yr adeilad ar gyfer arddangosfa gyffrous o ddawnsio fertigol yn ei ddigwyddiad agoriadol ar 21 Ebrill.
Bydd gweithgareddau eraill yn rhan o’r noson sy’n gysylltiedig â Blwyddyn y Chwedlau 2017, gan gynnwys aelodau cynyrchiadau’r Anvil wedi’u gwisgo mewn dillad canoloesol, wal ac ogof ddringo, saethyddiaeth a chyfle i weld draig bren wedi’i cherfio gan yr cerflunydd Simon O’Rourke.
Mae disgyblion lleol o Ysgol Aberconwy wedi cael y dasg o ysgrifennu cerddi am yr Afanc, anghenfil chwedlonol a arferai byw, medde nhw, yn Afon Conwy. Caiff y ddwy gerdd fuddugol eu hadrodd yn ystod y noson.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates:

“Hanfod Blwyddyn y Chwedlau yw dod â’r gorffennol yn fyw a chreu chwedlau newydd ar gyfer y dyfodol. Mae’n wych gweld gŵyl leol fel Trakz yn mabwysiadu thema’r flwyddyn. Rwy’n falch hefyd bod y digwyddiad cymunedol hwn yn cael ei gynnal ar dir swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.”Bydd gŵyl Trakz yn dechrau am 5.30pm yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru a chaiff digwyddiadau eraill eu cynnal yn y dref ei hun dros y penwythnos.