Mae tri deg pedwar o baentiadau a chyfres o chwech o ddyfrliwiau wedi eu rhoi i’r genedl yn lle treth etifeddiant.
Wrth dderbyn y darluniau, bydd yn golygu y bydd y cyhoedd yn parhau i gael gweld y casgliad hynod o baentiadau, fydd yn cael eu cadw ar safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Castell Penrhyn, ble y byddant yn parhau i gael eu harddangos.
Richard Pennant oedd Barwn 1af Penrhyn a pherchennog Ystad y Penrhyn. Wedi ei farwolaeth yn 1808, bu i’w gefnder, George Hay Dawkins, a ddefnyddiodd yr enw Dawkins Pennant wedi hyn, etifeddu’r Ystad. Cafodd ei ferch Juliana a’i gŵr Edward Gordon Douglas, eu henwi fel etifeddion ar y cyd i’r ystad wedi ei farwolaeth ar yr amod eu bod yn defnyddio’r cyfenw Pennant.
Mae’r paentiadau wedi eu derbyn gan Weinidogion Cymru trwy y cynllun Derbyn yn Lle Treth gan Ymddiriedolwyr Ystadau Sefydlog Penrhyn.
Mae’r paentiadau yn cynnwys darnau o bwysigrwydd rhyngwladol megis Conversion of St Hubert gan Philip Wouwerman, portreadau o ffigurau amlwg, gan gynnwys Syr Samuel Pennant, Arglwydd Faer Llundain 1749, Syr George Hay, ac Edward Gordon Douglas Pennant ac eraill sy’n gysylltiedig ag Ystad y Penrhyn. Mae’r paentiadau yn rhan o hanes Castell Penrhyn a’i ystad.
Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Ken Skates:
Meddai Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru:
Ers Deddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1937, a Deddf Cyllid 1953, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gallu derbyn tai a theclynnau yn lle treth. Cafodd Castell Penrhyn ei dderbyn gan y Trysorlys yn lle tollau marwolaeth ac mae bellach yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ei gasgliad unigryw wedi ei gadw ar y safle, a dros y blynyddoedd mae wedi ei gyflwyno i’r genedl ei weld a’i fwynhau. Mae’r ffaith bod yr addurno mewnol yn y tŷ yn goroesi yn bwysig i’r cyd-destun hanesyddol ac mae’n dangos dewisiadau a dull o fyw y trigolion a’r newid yn eu sefyllfa ariannol a ffasiwn dros y cenedlaethau.
Mae’r cynllun Derbyn yn Lle Treth yn galluogi trethdalwyr i drosglwyddo gwaith celf a theclynnau pwysig ein treftadaeth, megis Paentiadau Penrhyn, i berchnogaeth y cyhoedd i dalu’n llawn neu yn rhannol am eu treth etifeddiaeth. Yng Nghymru, mae’n rhaid i’r eitemau hyn gael eu cymeradwyo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, sy’n derbyn cyngor gan y Panel Derbyn yn Lle Treth. Mae’r Panel yn cynnwys arbenigwyr annibynnol, sy’n holi barn arbenigol ar y teclynnau sy’n cael eu cynnig. Mae’r Panel yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru yng Nghymru ac yn cydlynnu gydag Is-adran Archifau a Llyfrgelloedd Amgueddfeydd mewn achosion priodol.
Meddai Edward Harley, Cadeirydd Panel Derbyn yn Lle Treth:

“Mae gan Gastell Penrhyn hanes sy’n hysbys i bawb ac mae cysylltiad hanesyddol cryf rhwng y casgliad hwn a’r Castell. Rwy’n falch y bydd y cynnig hwn yn gyfnewid am dreth yn helpu i adrodd hanes Penrhyn a gwella profiad ymwelwyr â’r Castell.”
Meddai Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae’r Ymddiriedlaeth yn hynod ddiolchgar i Weinidogion Cymru am gytuno i dderbyn y gwaith celf gwych yma ac i ganiatáu iddynt barhau i fod ar safle Castell Penrhyn.
Mae trosglwyddo’r casgliad o bwysigrwydd enfawr i Gymru, ein treftadaeth, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac i Penrhyn, ac rydym yn falch iawn eu bod wedi eu cadw i’r genedl a’n bod yn gyfrifol am eu cadw. Mae’r darnau hyn yn golygu y bydd hanes Penrhyn yno yn ei gyfanrwydd i’r ymwelwyr.
Rydym yn hyderus y bydd y 100,000 y flwyddyn a mwy o ymwelwyr â Phenrhyn yn gwerthfawrogi’n fawr bod y gwaith yma yn cael ei arddangos ac yn cael pleser mawr o’u gweld.”
Ers Deddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1937, a Deddf Cyllid 1953, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gallu derbyn tai a theclynnau yn lle treth. Cafodd Castell Penrhyn ei dderbyn gan y Trysorlys yn lle tollau marwolaeth ac mae bellach yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ei gasgliad unigryw wedi ei gadw ar y safle, a dros y blynyddoedd mae wedi ei gyflwyno i’r genedl ei weld a’i fwynhau. Mae’r ffaith bod yr addurno mewnol yn y tŷ yn goroesi yn bwysig i’r cyd-destun hanesyddol ac mae’n dangos dewisiadau a dull o fyw y trigolion a’r newid yn eu sefyllfa ariannol a ffasiwn dros y cenedlaethau.
Mae’r cynllun Derbyn yn Lle Treth yn galluogi trethdalwyr i drosglwyddo gwaith celf a theclynnau pwysig ein treftadaeth, megis Paentiadau Penrhyn, i berchnogaeth y cyhoedd i dalu’n llawn neu yn rhannol am eu treth etifeddiaeth. Yng Nghymru, mae’n rhaid i’r eitemau hyn gael eu cymeradwyo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, sy’n derbyn cyngor gan y Panel Derbyn yn Lle Treth. Mae’r Panel yn cynnwys arbenigwyr annibynnol, sy’n holi barn arbenigol ar y teclynnau sy’n cael eu cynnig. Mae’r Panel yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru yng Nghymru ac yn cydlynnu gydag Is-adran Archifau a Llyfrgelloedd Amgueddfeydd mewn achosion priodol.
Meddai Edward Harley, Cadeirydd Panel Derbyn yn Lle Treth:
“Mae’r Cynllun Derbyn yn Lle Treth wedi chwarae rôl hollbwysig wrth sicrhau cyfran bwysig arall o gynnwys Penrhyn. Bydd y portreadau a’r paentiadau eraill sydd wedi’u derbyn a’u dyrannu gan Weinidogion Cymru i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn plesio yr ymwelwyr niferus â Gogledd Cymru ac yn cyfoethogi eu profiad yn y plasdy hwn.”