Mae’r ffaith bod y Lonely Planet wedi enwi Gogledd Cymru fel un o’r lleoedd gorau yn y byd i ymweld ag ef yn 2017 yn ffordd wych o ddod â Blwyddyn Antur 2016 i ben.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’n ddiweddar gyllid ar gyfer dau brosiect a fydd yn rhoi hwb pellach i enw da Cymru fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer anturiaethau awyr agored. Mae’r aelod diweddaraf o deulu Zip World ym Metws-y- Coed a Pharc Tonfyrddio newydd yn Sir Benfro wedi derbyn cyllid ac mae disgwyl i’r atyniadau newydd fod ar agor erbyn tymor gwyliau 2017.
Y Zip World Fforest Coaster fydd y cyntaf o’i fath yn y DU. Bydd yn rhedeg ar gledrau sy’n gwibio drwy’r coed ar draciau uchel Bydd yr antur yn cynnig hwyl i bobl gydol y flwyddyn. Mae atyniad o’r math hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn ardaloedd sgïo ar draws Ewrop, Asia a’r Unol Daleithiau oherwydd nad yw’r tywydd yn effeithio arno. Bydd yr Alpine Coaster 1km o hyd yn agor ar ddechrau 2017 a derbyniodd £320,000 drwy’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth.
Dywedodd Sean Taylor, y Cyfarwyddwr Masnachol,
“Mae’r Alpine Coaster yn daith sy’n defnyddio disgyrchiant, wrth i gerbydau tobogan ar draciau uchel wibio drwy’r coed presennol yn Zip World Fforest.
“Bydd y cwrs dros 1 cilomedr o hyd a bydd yn rhoi gwefr o’r radd flaenaf i deuluoedd a phobl sy’n mwynhau antur, gan gynnig y profiad o deithio’n gyflym am i lawr drwy’r coed uwchben Dyffryn ysblennydd Conwy.
“Mae twristiaeth antur yn mynd o nerth i nerth yng ngogledd Cymru. Yn wir, rydym yn teimlo mor hyderus ynghylch y dyfodol fel ein bod yn buddsoddi £5.5 miliwn dros y 12 mis nesaf er mwyn helpu i ddiogelu ei enw da fel un o brif leoliadau antur y byd.
“Flwyddyn nesaf byddwn yn datgelu’r Alpine Coaster sydd werth £1.5 miliwn, sef y cyntaf o’i fath yn y DU. Mae astudiaeth effaith economaidd a gynhaliwyd yn ddiweddar ynghylch Zip World wedi dangos bod atyniadau Zip World wedi creu £121 miliwn ar gyfer economi gogledd Cymru ers 2013 ac wedi creu dros 218 o swyddi. Pobl leol sy’n gwneud dros 93% o’r swyddi hyn. Credwn fod gennym fformiwla lwyddiannus - gwasanaeth o’r radd flaenaf i gwsmeriaid; anturiaethau arloesol a’r gallu i elwa ar harddwch Eryri i greu profiad bythgofiadwy i ymwelwyr.”
Yn y cyfamser, yng ngorllewin Cymru mae’r ddwy chwaer a’r brawd Sarah, Mark a Stephanie Harris am droi eu hoffter o donfyrddio’n fusnes antur newydd – y cyntaf o’i fath yn Sir Benfro.
Trwy’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi datblygiad Parc Tonfyrddio Sir Benfro, gan ddarparu £28,544 ar ei gyfer. Caiff y parc ei leoli ger Oakwood a Safle Gwyliau Bluestone.
Bydd llyn Parciau Tonfyrddio Sir Benfro yn cynnwys dwy system gebl, gan gynnig ffordd hawdd a hwyliog i bobl ddysgu tonfyrddio. Bydd y systemau’n ei gwneud hi’n bosibl i donfyrddwyr gael eu tynnu i fyny, sy’n golygu dechrau didrafferth, profiad dymunol a’r gallu i gyflawni campau.
Bydd dau gwrs – un ar gyfer dechreuwyr ac un ar gyfer tonfyrddwyr mwy profiadol. Bydd hyfforddwyr cymwys wrth law yn y ddau gwrs er mwyn sicrhau bod pawb yn cael profiad heb ei ail. Credir bod y lleoliad yn un delfrydol ar gyfer ymwelwyr a bydd yn eu galluogi i ddefnyddio’r cyfarpar diweddaraf. Bydd cyfle felly i donfyrddio mewn amgylchedd diogel a hwyliog.
Bydd modd profi’r gweithgaredd ar y dŵr beth bynnag y bo’r tywydd, a gall pobl o bob gallu a phob oedran roi cynnig arno. Yn ogystal â’r cyfle i donfyrddio a mwynhau golygfeydd ysblennydd o Fynyddoedd y Preseli, bydd modd i deuluoedd ac unigolion sy’n llawn adrenalin ymweld â’r caffi a’r siop a phrofi gweithgareddau eraill fel nofio mewn dŵr agored a phadlfyrddio ar eich traed.
Mae disgwyl i’r cyfleuster newydd agor yn y Gwanwyn 2017 a bydd y gwaith yn cychwyn ym mis Tachwedd 2016. Dywedodd Sarah Harris
“Gwnaeth ein magwraeth yn Sir Benfro arwain at ddiddordeb mawr mewn anturiaethau o bob math. Bu’r tri ohonom yn cymryd rhan mewn gwahanol chwaraeon wrth i ni dyfu i fyny a byddem yn treulio pob penwythnos yn mwynhau profiadau yn yr awyr agored. Wrth i ni dyfu i fyny daethom i’r casgliad bod posibiliadau di-ri i’w cael yn Sir Benfro o safbwynt denu twristiaid yn sgil yr arfordir a’r cefn gwlad ysblennydd. Does unlle gwell i sefydlu ein busnes. Rydym yn falch iawn o’n Sir ac roeddem yn awyddus iawn i rannu ein brwdfrydedd gydag ymwelwyr. Roeddem yn awyddus i dynnu sylw at y cyfoeth o brofiadau y gall Sir Benfro eu cynnig. Rydym nawr yn Gyfarwyddwyr swyddogol Pembrokeshire Wake Park Ltd ac mae’r gwaith go iawn yn cychwyn nawr.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates:
“Er bod y Flwyddyn Antur ar fin dod i ben rydym yn parhau’n awyddus i ddatblygu’r sector hwn o fewn yr economi dwristiaeth sy’n parhau i fynd o nerth i nerth ac i fuddsoddi ynddo. Mae’r Flwyddyn Antur wedi hyrwyddo Cymru fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer anturiaethau, ac mae’r ffaith bod y Lonely Planet wedi enwi gogledd Cymru fel rhif pedwar o blith eu deg lle gorau yn y byd i ymweld â hwy yn 2017 yn goron ar y cyfan. Mae’n ardderchog fod y Lonely Planet wedi cyfeirio at y ffaith bod y dirwedd ddiwydiannol gynt wedi’i hailddyfeisio a’i hailddefnyddio er mwyn creu cyfres o atyniadau heb eu hail. Mae hyn oll yn tystio i’r ymrwymiad a’r gwaith partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat er mwyn creu profiad heb ei ail ar gyfer ymwelwyr.”