Mae Prif Weinidog Cymru wedi canmol tîm pêl-droed Cymru, a’u cefnogwyr, am y ffordd y maen nhw wedi cynrychioli Cymru yn ystod twrnamaint cyffrous Euro 2016 yn Ffrainc.
Dyma’r tro cyntaf i’r tîm gyrraedd pencampwriaeth fawr ers 1958. Cymru oedd flaenaf yn eu grŵp cyn mynd yn eu blaenau i rownd gynderfynol y bencampwriaeth bêl-droed ryngwladol bwysig hon. Mae dros 90,000 o gefnogwyr o Gymru wedi bod yn un neu fwy o’r gemau, gyda miloedd yn rhagor yn bloeddio’u cefnogaeth o’u cartrefi, eu tafarndai, ac ardaloedd cefnogwyr yng Nghymru a Ffrainc.
Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Ar ôl disgwyl am 58 o flynyddoedd am le mewn pencampwriaeth fawr, nid yw Euro 2016 wedi siomi. Roedd cyrraedd y twrnamaint ei hun yn orchest ond diolch i’n perfformiadau yn Ffrainc, mae hi wedi bod yn amhosib ein diystyru. Sôn am daith mor gyffrous sydd wedi cydio yn nychymyg y genedl!
“Ond mae hon wedi bod yn fwy na phencampwriaeth bêl-droed i Gymru – mae hi wedi bod yn gyfle digynsail i ddangos i bawb ein bod yn wahanol. Bod gennym ddiwylliant unigryw, gwerthoedd unigryw a phobl unigryw – ac mae biliynau o bobl trwy’r byd yn deall hynny erbyn hyn.
“Am hynny, rhaid inni ganmol ein cefnogwyr. Cafodd Bordeaux, Lens, Toulouse, Paris, Lille a Lyon eu troi’n foroedd coch wrth i ddegau o filoedd o gefnogwyr Cymru ddathlu arwriaeth eu tîm gydag angerdd, balchder a hwyl a fydd yn aros yn hir yn y cof.
“Mae perfformiad y tîm ar y cae wedi bod yn wych, felly hefyd yr argraff mae’n cefnogwyr wedi’i gadael ar Ffrainc ac ar weddill y byd – mae’ch gwlad yn falch iawn iawn ohonoch chi.”
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi sy’n gyfrifol am chwaraeon elite:
“Gyda threigl pob gêm dros yr wythnosau a misoedd diwethaf, mae tîm pêl-droed Cymru wedi creu ychydig bach o hanes. O’r gemau rhagbrofol i’r rownd gynderfynol, mae hi wedi bod yn gamp gwerth ei gweld.
“Mae Chris Coleman wedi creu grŵp arbennig o fechgyn sydd wedi profi dro ar ôl tro o gyfuno gallu, ysbryd a dyhead, does dim byd yn amhosib. Gorau Chwarae, Cyd-Chwarae, Together Stronger – catalydd ardderchog ar gyfer chwaraeon Cymru a neges aruthrol i’w hanfon at unrhyw gyw Gareth Bale neu Jess Fishlock ar hyd a lled Cymru.
“Mae pêl-droed Cymru bellach ar fap y byd. Llongyfarchiadau i bawb a diolch am roi gwên ar wynebau cymaint o’ch cyd-Gymry”.