Bydd y Tŷ Du yn Nelson yn gartref i hyd at 20,000 o droedfeddi sgwâr o unedau busnes o ansawdd uchel cyn hir, yn sgil cytundeb partneriaeth a gyhoeddwyd heddiw.
Mae'r prosiect, gyda help £1.3m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn rhan o gynllun meistr ehangach ar gyfer adfywio safle Tŷ Du at ddibenion cymysg, ac yn gobeithio datblygu unedau sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o fusnesau. Disgwylir i'r unedau newydd gael eu cwblhau erbyn hydref 2020.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:
"Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion da i Nelson a'r rhanbarth.
Trwy gydweithredu go iawn rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, bydd cyfleusterau'n cael eu darparu ar y safle mawr hwn fydd yn gwireddu ei botensial economaidd ac yn darparu'r seilwaith a'r gwasanaethau sydd eu hangen i ddenu busnesau a swyddi i'r ardal.
Mae galw mawr am y mathau hyn o unedau busnes ac maen nhw'n rhan bwysig o Dasglu'r Cymoedd sy'n gweithio i gadw, denu a chynnal swyddi a ffyniant yn rhanbarth y Cymoedd. Law yn llaw â'm ffocws ar gefnogi a thyfu'r economi sylfaenol , cadw cadwyni cyflenwi'n lleol a chreu swyddi gwell yn nes adref - mae'n rhan bwysig o'n gwaith amlweddog i daclo problemau'r gorffennol a sicrhau newidiadau economaidd fydd yn para".
Dywedodd y Cyng Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi:
"Mae safle'r Tŷ Du yn Nelson wedi cael ei glustnodi ar gyfer datblygiad diwydiannol ers blynyddoedd lawer felly mae'n newyddion da iawn i'r ardal bod y cynllun adfywio yn cymryd cam arwyddocaol ymlaen. Bydd y datblygiad yn dod ag unedau busnes a chartrefi newydd o ansawdd uchel i'r safle strategol hwn sydd eisoes wedi'i gysylltu'n dda â'r seilwaith lleol.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn arwydd arall o'r hyder yn ardal Caerffili fel lle da i wneud busnes ynddo".
Yn ystod y degawd diwethaf, mae prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan yr UE wedi creu 45,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd ledled Cymru, wrth hefyd helpu dros 85,000 o bobl i gael swyddi.