Mae cwmni o Fae Kimnel sy'n creu offer manwl soffistigedig ar gyfer Rolls Royce a chwmnïau moduro ac awyrofod eraill am greu 23 o swyddi newydd o ganlyniad i gymorth gan Llywodraeth Cymru.
Bu Gweinidog yr Economi, Ken Skates yn ymweld â Consort Precision Diamond yng Nghonwy i drafod y cynlluniau ehangu, fydd yn cael cefnogaeth gwerth £200mil gan Lywodraeth Cymru.
Bu'r Gweinidog hefyd yn siarad â thîm rheoli y cwmni ynghylch y mathau o heriau y maent yn eu hwynebu cyn Brexit, gan eu hannog i gymryd mantais o'r amrywiol gymorth sy'n cael ei gynnig i fusnesau Cymru i helpu iddynt baratoi a sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll effeithiau Brexit.
Meddai Ken Skates:
"Dwi'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi Consort Precision Diamond o Gonwy yn eu cynlluniau i ehangu eu cyfleusterau a chreu 23 o swyddi medrus iawn ym Mae Kimnel.
Bydd y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ariannu cam cyntaf cynllun pum mlynedd fydd yn gweld Consort Precision Diamond yn adeiladu safle newydd ac yn cynyddu y nifer sy'n gweithio iddynt i bron i 170.
Roedd hefyd yn dda i drafod y paratoadau ar gyfer Brexit gyda'r cwmni ac i sicrhau eu bod yn ymwybodol ohonynt, ac yn defnyddio yr ystod llawn o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys ein porthol poblogaidd ar gyfer Brexit a'r dull o ddadansoddi busnes sy'n cael ei ddefnyddio gan filoedd o fusnesau ledled Cymru i helpu iddynt baratoi ar gyfer bywyd y tu allan i'r UE.
Mae Consort Precision Diamond yn allforio yn eang i farchnadoedd y tu allan i'r UE, gan olygu ei fod mewn sefyllfa gryfach i ddelio gyda'r newidiadau a'r heriau a ddaw gyda Brexit.
Hoffwn annog unrhyw fusnes yng Nghymru i ddefnyddio ein hystod eang o gymorth a chyngor ar allforio fel bod modd iddynt roi eu hunain yn y sefyllfa orau bosib i lywio'r daith o'n blaenau.
Wrth gwrs, rydym yn gwybod mai yr hyn sydd ei angen ar fusnesau, a'r hyn y maent yn parhau i alw amdano, yw sicrwydd. O'n rhan ninnau, byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i gael gwared ar sefyllfa o Ddim Cytundeb, a gweithio i sicrhau Brexit sy'n diogelu swyddi yng Nghymru a'n heconomi."
Mae neges y Gweinidog yn adlewyrchu ymgyrch newydd ar y teledu a'r radio a lansiwyd yr wythnos hon wedi ei anelu at helpu BBaChau baratoi ar gyfer Brexit. Mae'r hysbyseb yn annog busnesau i edrych ar y cymorth sydd ar gael ar gyfer Brexit, a'i ddefnyddio, drwy wasanaeth cynhwysfawr Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru fel y gallent roi eu hunain yn y sefyllfa gryfaf bosib.