Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi yn galw ar y gymuned fusnes i gefnogi menter newydd sydd wedi'i hanelu at gynyddu nifer yr entrepreneuriaid benywaidd yng Nghymru.
Cafodd rhaglen newydd Llywodraeth Cymru, Cefnogi Menywod Entrepreneuraidd, ei llywio gan waith panel o arbenigwyr, a ddaeth ynghyd yn 2017 i ystyried y ffordd orau o annog, datblygu a chefnogi entrepreneuriaeth fenywaidd yng Nghymru.
Bu y panel, o dan gadeiryddiaeth Helen Walbey, yn ystyried amrywiol dystiolaeth academaidd, a llenyddiaeth ar fenywod mewn entrepreneuriaeth, gan siarad gydag amrywiol fenywod ym myd busnes, grwpiau cynrychioladol a chyrff sy'n bartneriaid, ac mae wedi alinio ei waith gydag egwyddorion Rhaglen Sbarduno Entrepreneuriaeth Ranbarthol Sefydliad Technoleg Massachusetts.
Y canlyniad yw Fframwaith newydd ar gyfer Cefnogi Menywod Entrepreneuraidd yng Nghymru a Chanllaw Arfer Gorau i lywio sut y bydd Llywodraeth Cymru a'r gymuned fusnes yn gweithio i gynyddu nifer yr entrepreneuriaid benywaidd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb hefyd drwy gyhoeddi Cynllun Gweithredu Busnes Cymru sy'n rhestru 10 ffordd benodol y gall Llywodraeth Cymru a'r gymuned fusnes wella'r sefyllfa.
O ddarparu mwy o gymorth busnes yn canolbwyntio ar rywedd a magu hyder, i gynyddu nifer y cynghorwyr busnes a'r mentoriaid benywaidd yng Nghymru, a hyrwyddo gyrfaoedd entrepreneuriaid benywaidd amlwg, drwy wobrau busnes, mae'r cynllun gweithredu yn anelu at greu yr amgylchedd iawn i entrepreneuriaid benywaidd ffynnu.
Mae ffocws newydd hefyd ar gysylltu gydag entrepreneuriaid benywaidd i ddeall y rhwystrau y maent yn eu hwynebu, ei gwneud yn haws i fenywod ddod o hyd i opsiynau cyllid, heb gyfyngiadau sy'n cael effaith annheg ar fenywod, ac Arferion Da sy'n annog sefydliadau cymorth busnes i fabwysiadu ffyrdd o weithio sy'n cefnogi entrepreneuriaeth fenywaidd.
Bydd Gweinidog yr Economi yn lansio'r Cynllun Gweithredu a'r canllaw Arfer Da mewn digwyddiad dathlu yn Capital Law. Bydd digwyddiadau rhanbarthol i ddilyn, wedi'u trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Lloyds Bank, i sicrhau bod grwpiau busnes ledled Cymru yn ymwybodol o'r adnoddau newydd a'u swyddogaeth o gefnogi entrepreneuriaeth fenywaidd.
Meddai Gweinidog yr Economi:
"Mae digon o dystiolaeth o ddiffyg menywod fel perchnogion busnes yn ogystal ag ar lefel weithredol uwch, ac nid oes amheuaeth bod y bwlch rhwng y rhywiau yn atal menywod rhag cyrraedd eu potensial economaidd a phersonol llawn.
"Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn canolbwyntio ar greu yr amgylchedd iawn i alluogi entrepreneuriaid i ffynnu a datblygu, ac yn amlwg mae'n rhaid i hyn fod yr un mor berthnasol i fenywod ag i ddynion.
"Roedd y gwaith oedd wedi'i wneud gan ein panel o arbenigwyr yn cydnabod y cynnydd yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru a grwpiau sy'n cynrychioli busnesau wedi'i wneud yn y blynyddoedd diwethaf i gefnogi entrepreneuriaeth fenywaidd - ond mae'r neges yn glir. Mae'n rhaid inni wneud mwy, a gan bod Brexit yn cyflwyno heriau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen, mae'n bwysicach nag erioed i ddod o hyd i'r doniau gorau sydd ar gael.
"Dwi'n galw ar y gymuned fusnes a sefydliadau ariannol i gydweithio â ni a chanolbwyntio mwy ar rywedd yn eu gwaith. Dwi'n gobeithio y byddant yn defnyddio ein Fframwaith newydd a'n Canllaw Arferion Da i sicrhau eu bod yn chwarae eu rhan i greu amgylchedd ble y mae entrepreneuriaid benywaidd yn cael eu hannog a'u cefnogi'n iawn i gyrraedd eu potensial yn llawn."
Meddai Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip:
"Dylai pob menyw gael yr un cyfle a chynrychiolaeth ar y lefel uchaf un. Bydd helpu i ddeall a symud y rhwystrau sy'n wynebu menywod o ran cyfleoedd entrepreneuraidd yn cefnogi twf posibl menywod ym myd busnes. Drwy'r gefnogaeth hon, rydym yn gobeithio y bydd cynrychiolaeth decach o fenywod ac y gallant ffynnu yn y sector busnes.
"Er bod llawer mwy y gallwn ei wneud i sicrhau cydraddoldeb o ran y rhywiau, bydd y rhaglen hon yn helpu menywod i gyrraedd eu potensial yn llawn, ac i weld diwedd ar sefyllfa o ddiffyg menywod mewn swyddi uwch."