Mae cwmni o Gymru sy'n allforio eu 'concrid ar rholyn' i dros 40 o wledydd ledled y byd yn ehangu diolch i £200,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cyllid yn golygu y caiff Concrete Canvas, sy'n gallu gosod eu defnydd concrid ddeng waith yn gyflymach na choncrid arferol, ddatblygu canolfan Ymchwil a Datblygu arloesol gyda labordy a safle profi ar eu safle ym Mhontyclun. Bydd yn creu 25 o swyddi newydd sy'n talu'n dda ac yn helpu i hwyluso twf y cwmni yn y dyfodol.
Mae Concrete Canvas eu hunain yn buddsoddi dros £1 miliwn yn y gwaith ehangu.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae Concrete Canvas yn gwmni sy'n adnabyddus inni, gan eu bod wedi ennill Gwobrau Dewi Sant am Arloesi yn ddiweddar . Mae eu cynnyrch yn arloesol ac rwy'n falch iawn o gefnogi'r cwmni yn ystod y cyfnod nesaf yma o dwf.
"Bydd ein cyllid yn helpu i gyfrannu tuag at gost y prosiect o dros £1.2 miliwn i ail-ddatblygu safle Pontyclun, gan gyflwyno yr offer profi diweddaraf a'r lle a'r cyfleusterau angenrheidiol i ganiatáu i'r busnes barhau i gystadlu yn fyd-eang.
"Rydym yn ffodus, yma yng Nghymru, bod gennym fusnesau gwirioneddol arloesol, uchelgeisiol a dwi'n falch iawn o allu cefnogi Concrete Canvas ac eraill i'w helpu i gyrraedd eu potensial. Mae hwn yn gynnyrch arloesol sydd wedi'i ddarparu gan gwmni rhagorol, yn darparu swyddi gwych yn lleol - dyna yr union fath o fuddsoddiad sy'n cyd-fynd â'm Cynllun Gweithredu Economaidd."
Meddai Will Crawford, Cyfarwyddwr Concrete Canvas:
"Rydyn ni'n falch iawn o dderbyn y grant EFF hwn gan Lywodraeth Cymru fydd yn golygu y gallwn gwblhau'r broses o ail-ddatblygu y cyfleusterau Ymchwil a Datblygu arloesol mewn labordai a safleoedd profi ar ein safle newydd ym Mhontyclun, sydd i agor yn nhrydydd chwarter 2019, yn ogystal â'r ganolfan gynhyrchu newydd. Bydd y grant yn galluogi'r cwmni i ddatblygu ein cynnyrch Concrete Canvas ledled y DU a marchnadoedd allforio gan sicrhau 25 o swyddi ychwanegol dros y 2 flynedd nesaf."