Mae Llywodraeth Cymru yr un mor ymroddedig ag erioed i weithio gydag Airbus i sicrhau bod y cwmni'n mynd o nerth i nerth yn y Gogledd.
Dyna oedd neges Gweinidog yr Economi a Gweinidog y Gogledd, Ken Skates yn dilyn ei ymweliad â'r cwmni ym Mrychdyn ddoe.
Airbus yw cyflogwr mwyaf Cymru gyda 6,000 o weithwyr ac mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru iddo dros yr ugain mlynedd diwethaf wedi helpu i wneud ei safle ym Mrychdyn yng Nglannau Dyfrdwy yn un o'r cyfleusterau cynhyrchu adenydd ac awyrofod mwyaf blaengar yn y byd.
Mae Airbus wedi cadarnhau hefyd mai nhw fydd y tenant cyntaf yn y Cyfleuster Ymchwil i Weithgynhyrchu Uwch sydd ar agor o dan reolaeth Canolfan Ymchwil i Weithgynhyrchu Uwch (AMRC) Prifysgol Sheffield. Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £20m i ddatblygu cam cynta'r cyfleuster ac mae gan Airbus berthynas weithio hir ag AMRC.
Mae'r Cyfleuster Ymchwil i Weithgynhyrchu Uwch, sy'n cael ei adeiladu ger Chester Road ym Mrychdyn, yn hanfodol i helpu i wella cynhyrchiant, arloesedd, masnacholi a sgiliau ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys Awyrofod.
Roedd Brexit yn bwnc trafod llosg yn ystod yr ymweliad a dywedodd Ken Skates y bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cynaliadwy ac i gadw swyddi da yn y rhanbarth yn parhau.
Roedd y Gweinidog yn uchel ei glod hefyd o raglen Prentisiaethau Airbus sydd wedi rhoi cyfleoedd i gannoedd o unigolion mewn amrywiaeth o swyddi.
Dywedodd Ken Skates:
"Mae Airbus yn gwmni hanfodol bwysig yn y Gogledd, a thrwy greu cyfleoedd gwaith, datblygu sgiliau, darparu prentisiaethau rhagorol a chynnal y gadwyn gyflenwi, mae ei gyfraniad ariannol at economi Cymru yn anferthol. Mae'n amhosib dweud digon am y gwahaniaeth y mae'r cwmni'n ei wneud i'r rhanbarth ac i'r wlad yn gyfan.
"Rydyn ni'n parhau i gydweithio mewn ffordd adeiladol ag Airbus ac rwy'n falch mai nhw fydd y cynta trwy ddrysau'r Cyfleuster Ymchwil i Weithgynhyrchu Uwch. Amcan y cyfleuster yw newid y ffordd y mae busnesau'n cael eu cefnogi, er mwyn annog a chynyddu cydweithio rhwng diwydiant, partneriaid academaidd ac entrepreneuriaid a rhagwelir y bydd y cam cynta ynddo'i hun yn esgor ar gynnydd o gymaint â £4bn yn GVA Cymru (gwerth ychwanegol gros) dros gyfnod o 20 mlynedd.
"Roedd Brexit wrth reswm yn bwnc trafod amlwg ac er bod agwedd Llywodraeth y DU at adael yr UE yn golygu bod y sefyllfa'n ansicr iawn a bod llawer o gwestiynau heb eu hateb, rwy'n dweud eto bod ymrwymiad Cymru i weld ein partneriaeth hir ag Airbus yn parhau ac i wneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi yn ddiwyro. Dangoswyd hyn ym mis Medi pan wnaethon ni roi £3 miliwn i'r cwmni o Gronfa Bontio'r UE i'w helpu i baratoi ar gyfer Brexit.
"Gadewch imi fod yn glir, ni fydd Llywodraeth Cymru'n aros yn llonydd oherwydd penbleth Brexit. Byddwn yn dal ati i feithrin perthynas glos ag Airbus a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gynyddu cyfleoedd gwaith, i greu swyddi newydd ac i gefnogi'r cwmni i dyfu yn ei gartre ym Mrychdyn."