Mae Monzo - y banc ffonau symudol sy'n datblygu gyflymaf yn y DU, yn agor yng Nghaerdydd yn dilyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r banc digidol wedi denu sylw mawr yn y cyfryngau dros y misoedd diwethaf, ac mae'n enwog am ei ap ffonau clyfar sy'n rhoi dadansoddiad hawdd ei ddefnyddio i gwsmeriaid o'u harferion gwario.
Mae'r ap hefyd yn golygu bod modd i gwsmeriaid Monzo reoli eu harian drwy ddull y banc o rannu biliau, blocio eu cerdyn ar unwaith a gwario dramor heb ffïoedd na thaliadau.
Yr haf diwethaf ychwanegodd Monzo eu cynnyrch a'u gwasanaethau drwy lansio cyfrif cyfredol llawn a cherdyn Debyd Mastercard.
Mae llwyddiant y banc a'i dwf cyflym yn golygu bod ganddo bellach 1.3 miliwn o gwsmeriaid, a gyda dros 100,000 o ddefnyddwyr newydd bob mis, mae'r ffigur hwn yn debygol o godi eto.
O ganlyniad i'w llwyddiant cynyddol, mae Monzo yn bwriadu ehangu, ac yn dilyn £950,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd y banc yn agor canolfan gweithrediadau cwsmeriaid newydd yng Nghaerdydd, fydd yn creu 312 o swyddi newydd dros y bedair blynedd nesaf.
Mae hyn yn ogystal â phencadlys presennol Monzo yn Llundain sy'n cyflogi dros 500 o bobl.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn glir iawn ar ein hymrwymiad i sbarduno diwydiannau'r dyfodol a chefnogi busnesau i arleosi a chystadlu mewn marchnad sy'n datblygu'n gyflym.
"Mae model busnes arleosol Monzo, ei ymarferoldeb a'i dwf cyflym wedi golygu ei fod wedi datblygu'n gyflym yn un o fanciau digidol mwyaf y byd, ac fel Llywodraeth Cymru rydym yn falch o fod wedi eu cefnogi i ehangu yng Nghymru.
"Dwi'n edrych ymlaen at weld Monzo yn ymuno â'n Sector ariannol a Gwasanaethau Proffesiynol llwyddiannus yma yng Nghaerdydd ac wrth wneud hynny greu 312 o swyddi gwasanaethu cwsmeriaid o safon uchel yma yn ein prifddinas."
Meddai Tom Blomfield, Prif Weithredwr Monzo:
"Dwi'n teimlo'n gyffrous iawn ein bod yn ehangu ein presenoldeb yma yng Nghaerdydd, gan barhau i gynnig cymorth gwych i'n 1.3 miliwn o gwsmeriaid. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddwn yn recriwtio cannoedd o bobl yn ein swyddfa yng Nghaerdydd wrth inni ddatblygu ein sylfaen gwsmeriaid o filoedd yn fwy o bobl"
Mae Monzo yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer swyddi gweithredwyr cwsmeriaid yng Nghaerdydd, a byddwn yn symud i swyddfeydd newydd yng nghanol Caerdydd yn fuan, yn edrych dros y castell.