Heddiw, cyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa newydd sy'n werth £1 filiwn i helpu busnesau bach a chanolig (BBaChau) baratoi ar gyfer Brexit.
Mae'r cyllid hwn yn rhan o Gronfa Bontio'r UE, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n werth cyfanswm o £50 miliwn. Bydd mentrau bach a chanolig o bob cwr o Gymru yn gallu cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am swm yn amrywio rhwng £10,000 a £100,000, hyd at uchafswm o hanner costau'r prosiect, i'w helpu wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r UE. Bydd modd cyflwyno ceisiadau o ddydd Mercher 28 Tachwedd 2018 ymlaen.
I wneud cais, rhaid i fusnesau:
- fod wedi'u cofrestru i fasnachu yng Nghymru
- cofrestru gyda Busnes Cymru a chwblhau Asesiad Diagnostig Brexit pan fyddant yn cyflwyno cais: https://businesswales.gov.wales/brexit/cy
- gallu dangos y bydd y cyllid yn cyfrannu ar ddiogelu swyddi
- dangos eu bod yn masnachu ers 12 mis neu fwy ar ddiwrnod cyflwyno'r cais
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
“BBaChau yw asgwrn cefn ein heconomi ac mae fy Nghynllun Gweithredu ar yr Economi yn nodi'n gwbl glir fy mod yn ymrwymedig i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddyn nhw geisio tyfu a ffynnu mewn byd ar ôl Brexit.
Dim ond ychydig o fisoedd sydd ’na erbyn hyn cyn i'r DU ymadael â'r UE. Fodd bynnag, mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â Brexit yn golygu bod gan fusnesau yng Nghymru nifer o gwestiynau sydd heb eu hateb am yr hyn a fydd yn eu hwynebu yn y dyfodol, a gallai newidiadau i'r sefyllfa economaidd effeithio'n benodol ar BBaChau.
Mae Banc Datblygu Cymru, ein Porth Brexit a'r gefnogaeth ehangach a roddwyd gan Busnes Cymru wedi cael croeso mawr yn barod, ond dwi'n deall hefyd fod yna fusnesau y bydd angen ychydig yn fwy o gymorth arnyn nhw dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod.
Dwi'n gobeithio y bydd y gronfa hon o £1 filiwn yn cyrraedd y busnesau hynny ac y bydd, ar yr un pryd, yn cymell pob BBaCh yng Nghymru i gofrestru gyda Busnes Cymru ac i elwa ar Borth Brexit ac ar y gefnogaeth arbenigol sy'n cael ei chynnig.
Mae’n gyfnod o ansicrwydd mawr, ond dwi am sicrhau busnesau o bob maint ym mhob cwr o Gymru y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael inni wrth inni geisio diogelu swyddi a sicrhau bod ein heconomi'n parhau i dyfu ac i ffynnu.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.