Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, yn cyhoeddi bod £7.5 miliwn ychwanegol ar gael i helpu busnesau i wella cydnerthedd er mwyn ymdopi â heriau Brexit.
Bydd yr arian hwn, sy'n rhan o'r £50 miliwn sydd gan Lywodraeth Cymru o Gronfa Bontio'r UE, yn cael ei ddefnyddio dros y tair blynedd nesaf i helpu cwmnïau i ddatblygu'r arbenigedd a'r prosesau newydd y bydd eu hangen arnynt i ffynnu ar ôl Brexit.
Bydd rhan o'r cyllid hwn yn cael ei buddsoddi mewn cryfhau gwasanaeth cymorth allforio'r Llywodraeth sydd eisoes yn uchel ei barch, fel bod mwy o fusnesau yn gallu datblygu'r sgiliau a'r hyder angenrheidiol i ddechrau masnachu dramor, neu i gynyddu eu gwaith masnachu, o fewn a thu allan yr UE. Bydd y cyllid hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod busnesau yn gallu manteisio ar ddeallusrwydd allforio a gwybodaeth dechnegol o ansawdd i'w helpu i ddatblygu cyfleoedd allforio newydd yn llwyddiannus.
Bydd elfen arall o'r cyllid yn cael ei chyfeirio at Grant Cydnerthedd Brexit y bydd busnesau ledled Cymru yn gallu ymgeisio am ran ohono.
Bydd y Grant hwn yn ategu'r cyngor a'r cymorth o ansawdd a ddarperir drwy wasanaeth Busnes Cymru'r Llywodraeth i helpu busnesau i oresgyn yr heriau dybryd sy'n gysylltiedig â Brexit, megis beichiau a chymhlethdodau gweinyddol ychwanegol.
Bydd y £7.5 miliwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i helpu busnesau i fod yn fwy arloesol ac i gydweithio'n fwy er mwyn datblygu eu gallu a pharhau i fod y gystadleuol ar ôl Brexit. Bydd hynny'n helpu i gadw swyddi yng Nghymru, yn gwella dealltwriaeth y Llywodraeth o ffrydiau masnach rhwng Cymru a gweddill y byd, ac yn marchnata Cymru fel gwlad wych i fuddsoddi ynddi ac i feithrin cysylltiadau busnes â hi.
Yn olaf, bydd yr arian yn sicrhau bod busnesau yn gallu manteisio ar wybodaeth, offer ac adnoddau ar-lein a fydd yn eu grymuso i ymateb i amgylchedd marchnata sy'n newid. Dechreuwyd y gwaith hwn fis diwethaf wrth lansio Porthol Brexit Busnes Cymru.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, cyn Brecwast Busnes y Ffederasiwn Busnesau Bach lle cyhoeddodd y cyllid yn ffurfiol:
"Dim ond misoedd sydd i fynd cyn i'r DU adael yr UE ond yn anffodus mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â Brexit yn golygu bod gan fusnesau yng Nghymru gwestiynau am y dyfodol sydd heb eu hateb o hyd.
"Fel Ysgrifennydd yr Economi, rwy'n parhau i ganolbwyntio ar gyflenwi ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi a ddyluniwyd i'n helpu i baratoi ein heconomi ar gyfer y dyfodol, ac ar gynnal trafodaethau gonest, uniongyrchol a pharhaus gyda'r sector busnes er mwyn inni weithio gyda'n gilydd i baratoi ar gyfer yr heriau sydd o'm blaenau.
"Fis diwethaf, lansiwyd Porthol Brexit Busnes Cymru a gafodd ei ddatblygu gyda chymorth y Ffederasiwn Busnesau Bach. Mae'r porthol yn darparu'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf i gwmnïau yng Nghymru ar amrywiaeth o faterion pwysig ac yn eu helpu i asesu pa mor barod ydynt i wynebu Brexit drwy offeryn diagnostig pwrpasol. Rwy'n falch iawn o'r adborth hynod gadarnhaol a roddwyd gan fusnesau ledled Cymru ar ei werth.
"Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi £7.5 miliwn ychwanegol i helpu busnesau yng Nghymru i wella'r math o gydnerthedd sydd ei angen i wynebu Brexit.
"O gryfhau ein gwasanaeth cymorth allforio sydd eisoes yn perfformio'n dda i helpu busnesau i ymdopi a beichiau ac ansicrwydd Brexit a'u helpu i arloesi ac i ddatblygu partneriaethau newydd, bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng chwe maes â blaenoriaeth yr wyf i'n credu y gall atgyfnerthu'r sector.
"Ryw'n benderfynol y byddwn yn defnyddio'r cyllid hwn yn ddoeth ac yn effeithiol er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr effaith orau bosibl ac yn helpu'r sector busnes yng Nghymru i fod yn y sefyllfa orau bosibl i wynebu heriau Brexit.”
Bydd mwy o fanylion am sut y gall busnesau ymgeisio am y cyllid hwn yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.