Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi cyhoeddi cronfa grant newydd i annog a helpu entrepreneuriaeth mewn Addysg Bellach ac Uwch.
Bydd y grant Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn golygu y gall myfyrwyr elwa ar £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf. Bydd yn galluogi prifysgolion a cholegau i hybu entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr ac i gryfhau cysylltiadau, yn enwedig gyda phartneriaid i helpu myfyrwyr ar eu taith i ddechrau busnes. Mae'n ychwanegu at yr ystod o gymorth sydd ar gael drwy Busnes Cymru a Syniadau Mawr Cymru ar gyfer entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru i ymwneud â sefydliadau addysg bellach ac uwch.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn egluro ein hymrwymiad at ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd cadarn yng Nghymru, gan weithio gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu ecosystem gysylltiedig i annog busnesau i ddechrau a datblygu.
"Maen ein colegau a'n prifysgolion yn chwarae rhan hollbwysig fel arweinwyr rhanbarthol a byd-eang yn y maes ymchwil ac arloesi ac yn sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol y sgiliau cywir i wynebu'r byd hwn sy'n newid. Er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, mae'n bwysig ein bod yn edrych ar bob ffordd o weithio i greu'r cysylltiadau cywir rhwng sefydliadau academaidd, y llywodraeth, entrepreneuriaid, ein cyrff corfforaethol a grwpiau cyfalaf risg. Rhaid inni gyd chwarae ein rhan er mwyn creu amgylchedd cadarn a fydd yn galluogi entrepreneuriaeth i ffynnu. Mae menter Creu Sbarc yn tynnu sylw at y dull hwn ac mae'n ddull sy'n taro tant gennyf am fy mod yn aml yn clywed am yr effaith gadarnhaol sy'n deillio o'r gwaith sy'n cael ei wneud rhwng ein sefydliadau a'r gymuned fusnes.
"Drwy'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi, rwyf wedi hoelio sylw ar ein huchelgais i baratoi myfyrwyr i fod yn entrepreneuriaid ac i lunio targedau ar gyfer nifer y bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol, y coleg a'r brifysgol i ddechrau busnes fel maes gweithredu. Mae'r arian hwn yn ymrwymiad arall tuag at gyflawni'r nod hwn. Bydd yn galluogi ein sefydliadau i annog meddylfryd o fentergarwch, yn ychwanegu at y rhwydwaith o hyrwyddwyr entrepreneuriaeth i ysgogi cysylltiadau â phartneriaid ac yn helpu dysgwyr i ymuno â'r byd busnes.
"Dyma gyfnod cyffrous i fod yn entrepreneur yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld ein prifysgolion, ein colegau a’n myfyrwyr yn arwain y ffordd wrth inni ddatblygu a chefnogi'r ffrwd nesaf o entrepreneuriaid".
Y llynedd, dyluniodd Jack Thompson, entrepreneur 21 oed sy'n astudio yn Aberystwyth, ap rhannu ffioedd. Mae'r ap hwn yn datrys y broblem pan fo angen rhannu costau petrol rhwng ffrindiau a'r gyrrwr. Mae Jack yn canmol y cymorth a gafodd i ddatblygu ei uchelgais. Ar ôl cymryd rhan yng Nghymdeithas Entrepreneuriaeth y Brifysgol, cymerodd ran yn y bwtcamp i fusnesau gan Syniadau Mawr Cymru.
Dywedodd Jack:
"Roedd y bwtcamp yn wych. Cefais fy ysbrydoli yno ac ar ôl gadael roeddwn o hyd yn meddwl am syniadau busnes newydd. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniad busnes i gymryd rhan, gan y bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r dulliau a fydd eu hangen arnoch i gychwyn arni."