Heddiw, mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi croesawu ystadegau sy'n dangos bod cynnydd o un pwynt canrannol yn y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r ystadegau’n dangos hefyd fod cyfraddau diweithdra yn is mewn dau o'r pedwar rhanbarth economaidd (y Canolbarth a'r De-orllewin) ac nad ydynt wedi newid yn y Gogledd. Roedd cyfraddau anweithgarwch economaidd yn is hefyd mewn tri o'r pedwar rhanbarth economaidd.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
Ar y cyfan, mae'r canlyniadau hyn yn galonogol ar gyfer llawer o Gymru, yn enwedig y Canolbarth a'r Gogledd, ac maen nhw'n dangos bod y cymorth rydyn ni’n ei roi i fusnesau yng Nghymru ar adeg anodd yn cael effaith gadarnhaol. Ond allwn ni ddim osgoi'r ffaith bod angen gwneud mwy.
Mae'n destun pryder bod Llywodraeth y DU, yn ôl pob golwg, yn gyndyn o fuddsoddi yn Abertawe a Gorllewin Cymru, ac o gofio bod Brexit ar ein gwarthaf, mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n parhau i weithio'n agos gyda busnesau a darpar fusnesau ym mhob cwr o Gymru er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn manteisio i'r eithaf ar bob cyfle.
Mae fy Nghynllun Gweithredu ar yr Economi yn cydnabod bod gan bob un o ranbarthau Cymru ei gyfleoedd a'i heriau unigryw ei hun ac na fydd mynd ati i ddatblygu'r economi yn union yr un ffordd ym mhob man yn ddigon i sbarduno'r twf economaidd rydyn ni i gyd am ei weld. Mae gwaith sy'n mynd rhagddo i wneud yn siŵr bod pob rhanbarth yn adeiladu ar ei gryfderau unigol ei hun er mwyn sicrhau'r twf economaidd mwyaf posibl i Gymru yn dwyn ffrwyth yn barod. Mae'n tri Prif Swyddog Rhanbarthol yn eu lle ac yn cydweithio'n agos â phartneriaid lleol a busnesau er mwyn sicrhau bod ein potensial economaidd yn cael ei wireddu.
Bydd heriau o'n blaenau yn 2109 − 'does dim dwywaith am hynny. Gobeithio y gallwn ni, drwy'n Cynllun Gweithredu a chymorth fel Porthol Busnes Brexit, fod o gymorth gwirioneddol i fusnesau ym mhob cwr o Gymru wrth inni fynd ati i sbarduno cyflogaeth ac i leihau diweithdra ar draws Cymru.