Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi gweithwyr Refinitiv sydd bellach yn wynebu dyfodol ansicr yn dilyn y cyhoeddiad dirybudd i gau eu safle yn Wrecsam.
Gwnaethpwyd y penderfyniad gan Blackstone, y busnes ecwiti preifat o Efrog Newydd, yn dilyn y ffaith iddynt brynu cyfran reoli yn y rhiant-gwmni, Thomson Reuters, ac mae'n ergyd galed i'r 300 o weithwyr sy'n gweithio yn y busnes cyllid yn Wrecsam, a arferai ddod o dan yr enw Avox.
Pwysleisiodd Ysgrifennydd yr Economi bod dod o hyd i waith arall iddynt yn rhywbeth yr oedd ei adran eisoes yn ceisio ei drefnu.
Meddai:
"Mae hyn yn newyddion drwg iawn, nid yn unig i'r gweithlu dawnus, nifer ohonynt wedi ennill nifer o wobrau am eu proffesiynoldeb a'u cynhyrchiant, ond hefyd i'w teuluoedd a'r cymunedau niferus yn Wrecsam a'r cyffiniau y mae hyn wedi effeithio arnynt.
Roedd pawb wedi synnu gyda chyhoeddiad ddoe, ac mae fy swyddogion yn cyfarfod â rheolwr y safle heddiw i gael eglurhad o natur ac amseru eu penderfyniad. Dwi'n disgwyl i'r cwmni sicrhau y bydd y rhai hynny yr effeithiwyd arnynt yn cael cefnogaeth briodol a'i fod yn ymgynghori â'r staff am 45 niwrnod yn unol â'i rwymedigaethau statudol.
Dwi wedi sicrhau bod fy adran yn gweithredu ar unwaith, gan ddefnyddio ein cysylltiadau ar draws y diwydiant i helpu i sicrhau gwaith arall cyn gynted â phosib i'r rhai hynny sy'n gweithio yn Refinitiv. Bu hyn yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o Gymru yn dilyn colli swyddi, a'm neges glir i bawb yr effeithiwyd arnynt yw y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu.
Fel rhan o'r broses hon, rydym eisoes wedi cysylltu â chydweithwyr o Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth Cymru i holi ynghylch cynlluniau recriwtio y cwmnïau niferus o fewn y diwydiant gwasanaethau ariannol sydd yng Nghaer a'r ardal, a rydym hefyd yn cysylltu gyda'n swyddfa yn Efrog Newydd am ragor o wybodaeth ynghylch cyhoeddiad ddoe.
Os fydd y penderfyniad i gau y safle yn parhau yn dilyn y cyfnod ymgynghori 45 niwrnod, bydd ein tîm ReAct yn cael ei ddefnyddio.Mae'r rhaglen hon yn cynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth i unigolion yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan ddiswyddiadau.
Mae hyn yn gyfnod hynod anodd ac ansicr i bob un o weithwyr Refinitiv, a gallaf roi sicrwydd pendant y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu'r gweithlu hwn ddod o hyd i waith arall yn dilyn y penderfyniad hynod siomedig a di-rybudd hwn."