Bydd 13 o gwmnïau awyrofod gorau Cymru yn ymuno ag Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn Toulouse heddiw wrth i Lywodraeth Cymru fynd ati i hyrwyddo a chryfhau cysylltiadau ar draws y sector.
O gofio bod Brexit ar ein gwarthaf, mae’r daith fasnach yn rhoi cyfle amserol i’r cwmnïau hyn o Gymru rwydweithio gydag uwch-swyddogion sy’n cynrychioli cleientiaid allweddol posibl mewn nifer o dderbyniadau a digwyddiadau, gan gynnwys ADS Toulouse, digwyddiad mawr ei fri sy’n cael ei gynnal yn flynyddol. Bydd yn gyfle hefyd i drafod cyfleoedd a heriau a fydd yn wynebu’r sector yn y dyfodol gydag Ysgrifennydd yr Economi ac ymweld â Llinell Gydosod Derfynol Airbus a dysgu am y sector awyrennau masnachol yn Ffrainc.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
“Mae’r sector awyrofod yn gwbl hanfodol i Gymru. Mae’r enw da sydd gennym ni, a’n gweithlu medrus, yn y sector rhyngwladol hwn, sy’n prysur dyfu, yn destun eiddigedd i economïau ledled y byd, ac rydyn ni fel Llywodraeth yn benderfynol o wneud popeth posib’ i greu ac i gynnal yr amodau cywir i sicrhau bod y sefyllfa honno’n parhau.
“’Does dim dwywaith bod Brexit, a’r ffordd mae Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael ag e’, yn dod ag ansicrwydd a chwestiynau i’w ganlyn − yma, yn Ewrop a thu hwnt. Pa adeg well, felly, i gynnal y daith fasnach bwysig hon, a fydd yn caniatáu i gwmnïau o Gymru gryfhau’r cysylltiadau sydd ganddyn’ nhw’n barod ac adeiladu ar y berthynas gref sydd gennym â phartneriaid ar draws Ewrop, ac sydd o fudd inni i gyd.
“Mae Digwyddiad Blynyddol ADS Toulouse, un o ddigwyddiadau rhwydweithio mwyaf blaenllaw Ewrop ar gyfer y sector awyrofod, yn arbennig o bwysig yn hyn o beth. Bydd mwy na 250 o uwch-gynrychiolwyr o bob rhan o Brydain, Ffrainc a thu hwnt yn bresennol, felly mae hefyd yn gyfle digamsyniol i atgyfnerthu neges glir iawn Llywodraeth Cymru na ddylai Brexit newid y berthynas y mae’n diwydiant awyrofod, ac eraill, yn ei mwynhau ag Ewrop.
“Mae ansawdd a nifer y cwmnïau ar y daith fasnach hon yn tystio i gryfder y diwydiant yng Nghymru a dwi’n hynod falch o gael bod yn Toulouse gyda nhw heddi' er mwyn gwneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y sector yn parhau i dyfu ac i ffynnu.”
Mae tri ar ddeg o gwmnïau o Gymru yn cymryd rhan yn rhaglen y Daith Fasnach:
- Arcunam Information Security
- Consort Precision Diamond
- Cydweithio
- Derichebourg Atis aéronautique
- Electroimpact
- Gardner Aerospace
- Global Tooling Solutions
- Hexigone Inhibitors
- LMg Solutions
- STG Aerospace
- Tritech Group
- Wall Colmony
- Zip-Clip