Mae busnesau o Gymru gyda chynnyrch sy'n amrywio o iogwrt organig i baent wyneb organig yn bwriadu teithio i Malaysia a Singapore fel rhan o daith fasnach Llywodraeth Cymru.
Gan hedfan o Faes Awyr Caerdydd gyda Qatar Airways, bydd y daith fasnach yn ymweld â Kuala Lumpur cyn symud ymlaen i Singapôr.
Mae'r daith fasnach yn cynnwys un ar bymtheg o gwmnïau ledled Cymru o'r sectorau technoleg, olew a nwy, adeiladu, bwyd a diod, creadigol a gweithgynhyrchu.
Mae pob un ohonynt bellach yn bwriadu cryfhau eu cysylltiadau a chreu perthynas newydd yn rhanbarth De-ddwyrain Asia er mwyn datblygu eu busnesau, gyda chymorth gan dîm allforio Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n broactif gyda chwmnïau ledled Cymru i helpu iddynt ddatblygu ochr allforio eu busnes ac rwy'n falch ein bod yn cefnogi 16 o gwmnïau.
Mae hwn yn amser heriol ac ansicr i fusnesau wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r UE ac mae'n bwysicach nag erioed bod cwmnïau o Gymru yn gweithio i ddatblygu eu cysylltiadau masnachu gyda busnesau ledled y byd.
Wrth gwrs bydd y daith fasnach benodol hon hefyd yn helpu ein cwmnïau i fanteisio ar y cyfleoedd ar gyfer masnach byd-eang sy'n deillio o'r teithiau awyren newydd dyddiol rhwng Caerdydd a Doha.
Gallai cynnydd mewn allforion newid sefyllfa busnes yn gyfan-gwbl, a hoffwn annog unrhyw gwmni sy'n ceisio datblygu yr elfen hon o'u busnes gysylltu â Llywodraeth Cymru a dod i wybod mwy am yr help sydd ar gael."
Dyma'r cynhyrchwyr fydd yn mynd i Malaysia a Singapôr:
- Al-Met
- AMPLYFI
- Atticus Digital
- BCB International
- Concrete Canvas
- CSCM Group
- Elmac Technologies
- Ecoprocess Engineering
- Flamgard Engineering
- Geo Smart Decisions
- Hijinx
- Manutech Europe
- Rachel’s Dairy
- Safehouse Technology
- Unimaq
- Vortex IoT