Cyn i Weinidogion y Deyrnas Unedig gynnal cyfarfod ynghylch Brexit, aeth Rebecca Evans i ymweld â Chanolfan Dechnoleg TWI ym Mhort Talbot i glywed pa mor bwysig mae mynediad i’r farchnad sengl.
Mae Canolfan Dechnoleg TWI yn cynnig gwasanaethau technoleg a gwasanaethau cynnal parhaus i wella sgiliau weldio, saernïaeth a phrosesu cysylltiedig cwsmeriaid ac i ddangos perfformiad cynnyrch. Mae cwmnïau tebyg i TWI Technology yn cynnig i gwsmeriaid gyfuniad cymhleth o nwyddau a gwasanaethau a dywedodd y Gweinidog ei bod yn hanfodol eu bod yn parhau i fedru elwa ar fynediad llawn a dirwystr i Farchnad Sengl yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Rebecca Evans:
Dywedodd Rebecca Evans:
"Roedd hi'n hynod ddefnyddiol cael cwrdd â'r tîm yn TWI ac i drafod sut maen nhw'n cynllunio ar gyfer yr adeg pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
"Rwy'n gofidio bod Papur Gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Brexit yn cynnig perthynas fasnachu wahanol â'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer gwasanaethau a nwyddau.
"Rydyn ni wedi rhybuddio ar sawl achlysur na all y Deyrnas Unedig gymryd y risg economaidd anferthol o dorri'n rhydd o'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau. Mae hyn yn arbennig o wir am y sectorau gweithgynhyrchu a gwasanaethau arbenigol sydd mor bwysig yng Nghymru wrth iddyn nhw ddarparu swyddi sy'n cynnig cyflogau uchel ar gyfer sgiliau ar lefel uchel.
"Mae busnesau yng Nghymru yn elwa llawer o'n safle presennol ym Marchnad Sengl yr Undeb Ewropeaidd ac mae'r neges gan gwmnïau tebyg i TWI yn glir: rhaid sicrhau'r mynediad yma er mwyn i fusnesau ffynnu. Yn y Fforwm i Weinidogion yng Nghaerdydd heddiw, byddaf yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wrando ar fusnesau yng Nghymru ac i ymrwymo i sicrhau'r mynediad sy'n ofynnol ar gwmnïau tebyg i TWI.
"Roedd y Papur Gwyn yn gam rhy hwyr yn y cyfeiriad cywir ac mae'n cynnig gwell man cychwyn i ddechrau trafodaethau. Er hynny mae angen mwy o hyblygrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno Brexit sy'n gweithio i Gymru."